Neidio i'r cynnwys

Y frech goch

Mae’r frech goch yn cael ei hachosi gan feirws. Gall ledaenu’n hawdd trwy beswch a thisian rhywun y mae’r feirws arno. Gall y frech goch arwain at salwch difrifol. Gall fod yn beryglus iawn weithiau, a gall pobl farw ohono. 

Mae’r frech goch yn un o’r clefydau mwyaf heintus. Gall hyd yn oed gostyngiad bach yn nifer y bobl sy’n cael y brechlyn arwain at gynnydd mewn achosion o’r frech goch. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr achosion o’r frech goch yng Nghymru. Mae’n bwysig cael y ddau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys y frech goch i helpu i atal achosion pellach.  

 Bydd bron pawb sy’n dal y frech goch yn cael brech, tymheredd uchel (twymyn) ac yn teimlo’n sâl iawn. Mae un o bob 15 o bobl yn cael cymhlethdodau, gan gynnwys haint yn yr ysgyfaint (niwmonia) a chwydd yn yr ymennydd (enseffalitis). 

Fel arfer, mae brech yn ymddangos ychydig ddiwrnodau ar ôl symptomau sy’n debyg i annwyd. Gall smotiau bach gwyn ymddangos yn y geg hefyd. Gall pobl fod yn heintus am ychydig ddiwrnodau cyn ac ar ôl i’r frech ymddangos. 

Dysgwch mwy

Os hoffech chi  ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechydon maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 (safle allanol) neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn