Neidio i'r cynnwys

Clwy’r pennau

Mae clwy’r pennau yn haint feirysol sy’n lledaenu’n hawdd. Gall clwy’r pennau arwain at broblemau difrifol fel llid yr ymennydd (meningitis – sef haint yn y gorchudd amddiffynnol o amgylch yr ymennydd) ac enseffalitis (chwyddo yn yr ymennydd). Mewn achosion anghyffredin iawn, gall clwy’r pennau achosi marwolaeth. 

Mae clwy’r pennau yn lledaenu trwy ddefnynnau poer heintiedig y gellir eu hanadlu i mewn neu eu codi oddi ar arwynebau a’u trosglwyddo i’r geg neu’r trwyn.  

Nid yw rhai pobl sydd â chlwy’r pennau yn dangos unrhyw symptomau, ond gallant barhau i ledaenu’r clefyd i bobl eraill. Mae symptomau cyffredin clwy’r pennau’n cynnwys chwydd poenus mewn dau chwarren fawr ar ochr yr wyneb, a thwymyn. 

Dysgwch mwy

Os hoffech chi  ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechydon maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 (safle allanol) neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Data

  • Hysbysiadau o glwy’r pennau

    Mae’r dangosfwrdd hwn yn cyflwyno data gwyliadwriaeth ar hysbysiadau clwy’r pennau yng Nghymru. Mae’n dangos…