Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Papilomafeirws Dynol (HPV) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2023-24

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae tua 100 o fathau o'r papilomafeirws dynol (HPV). Mae HPV yn feirws DNA elfen ddwbl sy'n heintio epithelia cennog gan gynnwys y croen a mwcosa'r llwybrau anadlol ac anogenhedlol uchaf. Er bod y rhan fwyaf o heintiau yn asymptomatig ac yn bosib eu rheoli eich hun, mae haint cenhedlol gan HPV yn gysylltiedig â defaid gwenerol a chanserau anogenhedlol mewn dynion a merched. Mae feirysau HPV yn cael eu dosbarthu naill ai fel mathau ‘risg uchel’ neu ‘risg isel’ yn dibynnu ar eu cysylltiad â datblygiad canser. 

Ers 2018, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bod yn adolygu'n fanwl y dystiolaeth am amddiffyn drwy gael un dos o frechlyn HPV. Mae'r JCVI o'r farn bod y dystiolaeth bellach yn gryf iawn bod un dos yn rhoi amddiffyniad tebyg i'r hyn a roddir gan ddau ddos. 

Gweler datganiad y JCVI yn llawn yma: Datganiad y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer y rhaglen imiwneiddio HPV arferol - GOV.UK (www.gov.uk) 

Yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023, bellach mae amserlen un dos ar gyfer brechiadau HPV ar gyfer rhaglen arferol y glasoed a dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) o dan 25 oed. Darperir manylion pellach yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2023/016 (gweler yr adran Canllawiau isod). 

Argymhellir un dos o'r brechlyn HPV ar gyfer: 

  • Pawb yn y glasoed sy'n imiwnogymwys (bechgyn a merched)*. Mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig mewn ysgolion i ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 oed fel arfer). Mae dynion a merched mewn carfannau sy'n gymwys i gael eu brechu yn y rhaglen genedlaethol yn parhau felly tan eu pen-blwydd yn 25 oed - gweler y Llyfr Gwyrdd am fanylion.

  • GBMSM hyd at 25 oed sy'n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV.* 

Mae amserlen dau ddos or brechiad HPV yn cael ei argymell ar gyfer: 

  • GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed. 

* Noder: dylai unigolion sy'n gymwys ar gyfer brechiad HPV sy'n imiwnoataliedig neu'n HIV positif gael cynnig tri dos o'r brechlyn HPV. 

Gardasil yw’r brechlyn sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG ers 2012. Yn 2022, cyflwynwyd Gardasil 9 yn rhan o raglen frechu HPV y GIG. Dyma’r prif frechlyn HPV sy’n cael ei roi yng Nghymru nawr.  

Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag mathau o HPV (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mae mathau HPV: 16 ac 18 yn fathau HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod. 

Mae Gardasil 9 yn cynnig gwarchodaeth rhag 5 math ychwanegol o HPV (31, 33, 45, 52, 58) sydd, er yn llai cyffredin na mathau 16 a 18, hefyd yn cael eu hystyried yn risg uchel. Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag y mwyafrif o ganserau ceg y groth, y fagina a’r fylfa a briwiau cyn-ganseraidd, yn ogystal â defaid gwenerol sy'n gysylltiedig â HPV.  

 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch 

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd. 

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau'r JCVI gallwch chwilio am e.e. HPV)

 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

CIC: Diweddariad ynghylch y rhaglen imiwneiddio rhag feirws papiloma dynol. Gweithredu ar symud i drefn un dos o’r brechlyn Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru. (WHC/2023/016) Mai 2023

Newidiadau i’r brechlyn ar gyfer y rhaglen Imiwneiddio HPV (WHC/2022/023) Medi 2022

Newid i rhaglen dau-ddos brechu yn erbyn HPV ar gyfer pobl yn eu harddegau ac oedolion yn dechrau'r cwrs ar ol 15 blwydd oed, gan gynnwys dynio'n sy'n cael rhyw gyda dynion (2022)

Cyngor interim y JCVI ar amserlen un dos ar gyfer y rhaglen imiwneiddio HPV Chwefror 2022

Y brechlyn HPV i fechgyn yn eu harddegau (2018)

Y brechlyn HPV i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion (2017)

Llythyr y Prif Swyddog Nyrsio i Gyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol a Swyddogion Llywodraethu Ysgolion (sharepoint.com) Chwefror 2021 

Llythyr ar y cyd y Prif Swyddog Meddygol/y Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwyr Addysg at benaethiaid - Cynnal rhaglenni brechu mewn ysgolion yn ystod COVID-19 (2020)

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

 

Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen  Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru  

 

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth

 

Adnoddau eraill

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru.

 

 

Data a goruchwyliaeth