Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu cynllun pum mlynedd i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2024


Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi croesawu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol pum mlynedd newydd i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. 

Mae Prif Swyddogion Meddygol a Milfeddygol wedi dweud bod yn rhaid i bawb chwarae eu rhan wrth atal un o laddwyr mwyaf y byd wrth iddynt lansio cam nesaf cynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau. 

Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 7,600 o farwolaethau yn uniongyrchol o heintiau ag ymwrthedd i wrthfiotigau (yn debyg i nifer y marwolaethau yn y DU oherwydd canser y stumog), yn ogystal â 35,200 o farwolaethau o ganlyniad anuniongyrchol i heintiau ag ymwrthedd i wrthfiotigau.  

Hyd yn oed os yw'r claf yn goroesi, mae ymwrthedd yn gwneud heintiau yn llawer mwy difrifol ac anodd eu trin yn llwyddiannus. Ond gall camau syml i atal heintiau ac osgoi'r defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn pobl ac anifeiliaid helpu i atal rhai o'r marwolaethau hyn. 

Lansiwyd cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd y DU 2024-29 heddiw (dydd Mercher 8 Mai). Mae'n ymrwymo'r DU i leihau'r angen am gyffuriau gwrthficrobaidd, a sicrhau'r defnydd gorau ohonynt—fel gwrthfiotigau, cyffuriau gwrthffyngaidd a gwrthfeirysol – mewn pobl ac anifeiliaid, cryfhau gwyliadwriaeth heintiau ag ymwrthedd i gyffuriau cyn iddynt ddod i'r amlwg a chymell y diwydiant i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o driniaethau. 

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU weledigaeth 20 mlynedd i reoli a lliniaru ymwrthedd gwrthficrobaidd erbyn 2040. Er gwaethaf pandemig Covid, mae'r DU wedi llwyddo i leihau amlygiad dynol i wrthfiotigau drwy fwy nag 8% ers 2014 a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd 59% rhwng 2014 a 2022. 

 

Yn 2023, rhagnododd Cymru 15% yn llai o wrthfiotigau mewn ymarfer cyffredinol o gymharu â 2014, drwy waith caled a diwydrwydd rhagnodwyr, fferyllwyr cymunedol a thimau byrddau iechyd sy'n gweithio yn y gymuned. 

Meddai Robin Howe, Microbiolegydd Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu lansiad cam nesaf cynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau erbyn 2040.  

"Gall pob un ohonom chwarae rhan wrth helpu i atal ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio gwrthfiotigau yn union fel y cyfarwyddir gan feddyg, nyrs neu fferyllydd. Ni ddylai unrhyw un gadw gwrthfiotigau ar gyfer nes ymlaen na'u rhannu â theulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes. Os oes gennych wrthfiotigau heb eu defnyddio dylech eu dychwelyd i'ch fferyllfa leol. Mae eu taflu i'r bin neu eu fflysio i lawr y toiled yn arwain at halogi afonydd, gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.  

"Mae gwrthfiotigau yn adnodd gwerthfawr y mae'n rhaid i ni ei ddiogelu."