Neidio i'r prif gynnwy

Mae arolwg yn dangos cefnogaeth gref i rôl ysgolion mewn iechyd a llesiant plant a phobl ifanc

Cyhoeddig: 16 Ebrill 2024

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi ysgolion a meithrinfeydd i chwarae rhan mewn canlyniadau iechyd a llesiant i rai dan 18 oed.  

Mae canlyniadau diweddaraf arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod cefnogaeth i rôl lleoliadau addysgol (e.e. ysgolion a meithrinfeydd) yn uchel ar draws pob un o’r naw maes iechyd a llesiant plant y gofynnwyd amdanynt.  Pan ofynnwyd i’r boblogaeth gyffredinol i ba raddau y maent yn cefnogi neu’n gwrthwynebu bod gan leoliadau addysg rôl mewn iechyd a llesiant, roedd y gyfran a ymatebodd “cefnogaeth gref” ar ei huchaf ar gyfer cefnogi diogelwch ar-lein (77 y cant), atal ysmygu a fepio (76 y cant) , cael mynediad at gymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl (74 y cant), ac atal camddefnyddio alcohol a chyffuriau (74 y cant).  

Canfuwyd hyd yn oed mwy o gefnogaeth ymhlith rhieni â phlant o dan 18 oed, lle’r oedd y cyfrannau a ymatebodd “cefnogaeth gref” ar eu huchaf ar gyfer diogelwch ar-lein (84 y cant), datblygu dulliau ymdopi cadarnhaol (80 y cant), cyrchu cymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl (80 y cant), datblygu perthnasoedd cadarnhaol (78 y cant), ac atal ysmygu a fepio (78 y cant). Mae ysgolion yn chwarae rhan fach ond rhan bwysig o ran hybu iechyd a llesiant ymhlith pobl ifanc, ac mae cefnogaeth gan rieni wedi’i nodi yn y llenyddiaeth ehangach fel un o’r ysgogiadau allweddol sy’n galluogi lleoliadau i ymgorffori dulliau ysgol gyfan tuag at iechyd a llesiant.  

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl arweiniol wrth hyrwyddo a gweithredu dulliau ysgol gyfan a systemau o ymdrin ag iechyd a llesiant. Tair rhaglen gyflenwol a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru yw Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), y Dull Ysgol Gyfan tuag at Les Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) a'r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS).   

Mae ein timau’n rhoi cymorth lleol i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar, dan arweiniad offer, canllawiau ac adnoddau cenedlaethol, i helpu i nodi eu blaenoriaethau iechyd a llesiant, datblygu cynlluniau gweithredu, a chael mynediad at gymorth ychwanegol fel hyfforddiant, i ddiwallu anghenion cymuned eu hysgol. 

Dywedodd Alexa Gainsbury, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er ei bod yn bwysig bod yn realistig ynglŷn â’r hyn y gall ysgolion ei gyflawni, a chofio pwysigrwydd cefnogaeth gan rieni, mae’n wych gweld cefnogaeth o’r fath ar gyfer rôl gadarnhaol lleoliadau addysg ar gyfer iechyd a llesiant pobl ifanc. Mae plant a phobl ifanc yn ffynnu mewn amgylcheddau sy'n meithrin eu hiechyd a'u llesiant, boed hynny yn yr ysgol neu gartref.  

“Yng Nghymru, mae ein hysgolion a’n lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar eisoes yn deall y sefyllfa unigryw sydd ganddynt o ran dylanwadu ar iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Mae eu hymrwymiad i wella canlyniadau i bawb yn eu gofal yn glir ac mae cymaint wedi'i gyflawni eisoes trwy weithio mewn partneriaeth.  

“Mae ein rhaglenni hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lleoliadau i hybu iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Trwy dimau sydd wedi’u sefydlu’n lleol ac offer a chanllawiau cenedlaethol, mae’r rhaglenni’n cefnogi lleoliadau i gymryd camau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wreiddio iechyd a llesiant i wead yr ysgol neu’r feithrinfa, gan gefnogi iechyd a llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol gydol oes. 

“Er bod gan ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar swyddogaeth allweddol wrth gefnogi iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, dim ond un rhan ydyn nhw o system lawer mwy sydd angen cydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc. a rhoi cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd pan fydd ei angen arnynt.”