Gwaith teg
Mae gwaith yn floc adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd ac mae’n weithgarwch lle mae pobl yn defnyddio eu hamser, eu sgiliau a’u hymdrech i gynhyrchu nwyddau neu wasanaethau, ennill incwm a chyfrannu at gymdeithas. Gall fod yn weithgarwch â thâl neu heb dâl.
Tabl cynnwys:
- Pam mae’n bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
- Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau cyfranogiad mewn gwaith teg a lleihau diweithdra i'r boblogaeth yng Nghymru?
- Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau cyfranogiad mewn gwaith teg a lleihau diweithdra ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol er mwyn sicrhau'r iechyd gorau posibl i'r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau?
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Pam mae’n bwysig i iechyd, llesiant a lleihau anghydraddoldebau?
Mae gwaith yn chwarae rhan bwerus wrth lunio ein hiechyd, ein llesiant a’n cyfleoedd bywyd ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory. Mae gwaith da yn darparu incwm, pwrpas, trefn arferol, a chysylltiad cymdeithasol — y mae pob un ohonynt yn hanfodol i lesiant corfforol a meddyliol. Mae cyflogaeth ddiogel ac ystyrlon yn helpu pobl i fforddio hanfodion fel bwyd, tai, gwres a thrafnidiaeth, gan leihau straen a chefnogi ymddygiadau iachach. Gall hefyd feithrin hyder, sgiliau, ac ymdeimlad o gyfraniad at gymdeithas, sy’n bwysig ar gyfer llesiant meddyliol.
Fodd bynnag, nid yw pob math o waith yn cefnogi iechyd da. Gall swyddi o ansawdd gwael — er enghraifft swyddi sy’n ansicr, â chyflog isel, yn anniogel, yn achosi gormod o straen, neu sydd ddim yn ystyried llais y gweithwyr — niweidio iechyd. Maent yn gysylltiedig â gorbryder, iselder, problemau cyhyrysgerbydol, a salwch hirdymor. I rai pobl, gall gwaith o’r fath fod yn fwy niweidiol na diweithdra.
Felly mae gwaith teg yn hanfodol ar gyfer gwella iechyd y boblogaeth, torri cylch tlodi plant a lleihau anghydraddoldebau. Mae gwaith teg yn cynnwys contractau diogel, cyflog teg sy’n cwrdd â chostau byw, amodau gwaith diogel, rheolaeth resymol dros oriau, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a pharch ac urddas yn y gwaith. Pan fydd yr amodau hyn ar waith, mae gweithwyr yn fwy tebygol o gael gwell iechyd, mwy o foddhad yn eu swydd, a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae gwaith hefyd yn ffactor allweddol i sbarduno creu cymdeithas decach ac iachach. Mae pobl mewn cymunedau difreintiedig, pobl anabl, gweithwyr iau, a rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o gael eu dal mewn cyflogaeth ansicr neu o ansawdd isel. Mae gwella mynediad at waith teg yn helpu i leihau bylchau iechyd drwy fynd i’r afael â’r amodau cymdeithasol ac economaidd sy’n achosi iechyd gwael yn y lle cyntaf.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gryfhau cyfranogiad mewn gwaith teg a lleihau diweithdra i’r boblogaeth yng Nghymru?
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i leihau diweithdra a chynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg drwy wneud y canlynol:
Pa gamau y dylid eu cymryd i gryfhau cyfranogiad mewn gwaith teg a lleihau diweithdra ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol er mwyn sicrhau’r iechyd gorau posibl i’r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau?
Dylid cymryd y camau gweithredu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol canlynol i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg, i sicrhau’r iechyd gorau posibl i’r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru:
Gwybodaeth bellach
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
-
Amddifadedd incwm cronnus 2017
Cyfrif a chanran yr holl bersonau yn ôl Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) preswylio Cymru….
-
Beth sy’n gweithio i wella cyfranogiad mewn gwaith?
Mae’r map tystiolaeth hwn yn cefnogi blaenoriaeth strategol un o strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru….