Brechu yn erbyn meningococol grŵp B (MenB) mewn babanod a phlant ifanc - Ynglŷn â’r brechlyn MenB ar gyfer babanod a phlant ifanc
Cefndir
“Gall clefyd meningococol achosi llid yr ymennydd (chwydd yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a sepsis (sef adwaith sy’n peryglu bywyd i haint a all niweidio eich corff cyfan). Mae llid yr ymennydd a sepsis yn glefydau sy’n bygwth bywyd.“
Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y.
Talfyriad o ‘facteria meningococol grŵp B’ yw MenB. Mae MenB yn un o sawl math o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C.
Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria meningococol grŵp B. Nid yw’n amddiffyn rhag mathau eraill o facteria meningococol. Cynigir brechlyn gwahanol i bobl ifanc yn eu harddegau, o’r enw MenACWY, i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau A, C, W ac Y.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Ynglŷn âr brechlyn
Fel arfer, bydd babanod yn cael y brechlyn MenB trwy bigiad yn rhan uchaf eu coes (clun). Fel arfer, bydd plant hŷn ac oedolion yn ei gael trwy bigiad yn rhan uchaf eu braich.
Y brechlyn MenB, o’r enw Bexsero (Saeneg yn unig), yw’r unig frechlyn sy’n cael ei gynnig ar amserlen imiwneiddio’r GIG yng Nghymru sy’n helpu i amddiffyn rhag bacteria meningococol grŵp B.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Adnoddau
Os hoffech chi ddysgu rhagor am y brechlyn MenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau.
Brigiad achosion llid yr ymennydd
Rhagor o wybodaeth
- Mae Meningitis Research Foundation (Saesneg yn unig) yn elusen flaenllaw yn y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dod â phobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.
- Mae Meningitis Now (Saesneg yn unig) yn elusen genedlaethol ar gyfer llid yr ymennydd sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Mai 2026