Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys

Brechlyn ffliw - Adnoddau ffliw ar gyfer weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Cefndir

Mae’r ffliw yn hynod heintus ac yn achosi haint feirol acíwt ar y llwybr anadlol. Mae’r feirws hwn yn cael ei ledaenu drwy ddafnau, aerosol neu gyswllt uniongyrchol â hylifau anadlol gan unigolyn sydd wedi’i heintio. Y cyfnod deor arferol yw un i dri diwrnod.

Ar gyfer unigolion iach, mae’r ffliw yn annymunol ond fel rheol yn bosib ei reoli, gydag adferiad rhwng dau a saith diwrnod. Mae rhai pobl mewn mwy o berygl iddo achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Gall cymhlethdodau’r ffliw gynnwys y canlynol:

  • Broncitis
  • Niwmonia bacterol eilaidd        
  • Otitis media (mewn plant)
  • Llid yr ymennydd
  • Enceffalitis neu
  • Meningoenceffalitis

Ymhlith y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol oherwydd y ffliw mae:

  • Babanod
  • Pobl hŷn   
  • Y rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol             
  • Pobl ag imiwnoddiffygiant       
  • Merched beichiog

Brechlynnau’r ffliw

Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi’u gwanhau a’u haddasu’n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu. 

Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy’n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau’r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.   

Darllenwch yr Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Cyfansoddiad a argymhellir o frechlynnau feirws y ffliw ar gyfer tymor ffliw hemisffer y gogledd 2026–2027 (safle allanol, Saesneg yn unig).

Crynodeb o’r nodweddion cynnyrch

Gallwch ddysgu rhagor am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch (SmPC) sydd i’w gael yn y ddolen crynodeb meddyginiaethau electronig (emc) (safle allanol, Saesneg yn unig) drwy nodi enw’r brechlyn, er enghraifft: Fluenz Trivalent.

Brechlynnau sy’n cael eu argymell

Amserlen y rhaglen ar gyfer tymor y ffliw 2026-27

Bydd y rhaglen brechu rhag y ffliw yn rhedeg o fis Medi 2026 tan 28 Chwefror 2027 yn unol â Chylchlythyr Iechyd Cymru (dolen isod).

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod. 

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Adnoddau hyfforddi

Modiwlau e-Ddysgu am y ffliw

Diweddariad ffliw clinigol i Gymru 

Mae’r modiwl e-ddysgu hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n imiwneiddio rhag y ffliw neu’n rhoi cyngor ar imiwneiddio rhag y ffliw. Dyma’r diweddariad clinigol ar gyfer Cymru ac mae wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor y ffliw 2026-27. Mae’r modiwl hwn ar gael ar ESR ac ar y platfform Dysgu@Cymru.  

Modiwl e-ddysgu gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru 

Mae’r modiwl hwn yn egluro pam mae’r brechlyn ffliw blynyddol mor bwysig i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi trosolwg o’r ffliw a’i gymlethdodau ac yn rhoi manylion am bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn a sut i’w gael. Mae’n addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn gweithio i’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, y maes gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol. Nid yw’r modiwl hwn yn ddiweddariad clinigol. 

Mae rhagor o wybodaeth am y modiwlau hyn a sut i gael mynediad iddynt ar gael ar y dudalen E-ddysgu imiwneiddio.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant brechu ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio .

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Gwybodaeth:

Cofiwch fod gwybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir cael mynediad at dempledi PGD ar gyfer y brechlyn ffliw o’r dudalen Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar wefan Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru.

Adnoddau clinigol pellach a gwybodaeth

Y niferoedd sy’n cael y brechiad

Mae gwybodaeth am yr oruchwyliaeth ar y ffliw, gan gynnwys y niferoedd sy’n cael y brechiad, i’w gweld yn Adroddiad wythnosol ar ffliw a heintiau anadlol acíwt.

Adnoddau templed ffliw

Anoddau hyrwyddwyr brechu

Gweminarau

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Medi 2026