Neidio i'r cynnwys

Canllaw cyngor doeth i hyrwyddwyr brechu rhag y ffliw

Mae Hyrwyddwyr Brechu yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn staff, cleifion a chymunedau. Drwy annog sgyrsiau cadarnhaol ar sail gwybodaeth, gallwch helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu brechu, lleihau lledaeniad y feirws a gwella amddiffyniad rhag y ffliw.

Mae’r canllaw hwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol i’ch cefnogi yn eich rôl.