Neidio i'r cynnwys

Cwrs e-ddysgu gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Gwybodaeth:

Wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2026 to 2027

Mae’r wybodaeth yn y fersiwn hon yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol o 14.07.2026

Disgrifiad: 

Mae’n rhoi gwybodaeth am y ffliw a pham mae brechiad rhag y ffliw mor bwysig i bob aelod o staff. 

Addas ar gyfer:  

Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn rhan o’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol.

Hyd:  

5 munud 

Cofrestru: 

Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR)

Chwiliwch am brechlyn ffliw yn y catalog cyrsiau ar dudalen hafan “Fy Nysgu”.

Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar [email protected], neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost gyda .ac.uk or .gov.uk ar y diwedd, gallwch hunangofrestru.

Noder: Nid diweddariad clinigol yw’r modiwl hwn. Os ydych chi’n imiwneiddio yn erbyn y ffliw neu’n darparu cyngor ar imiwneiddio dylech gwblhau’r diweddariad Ffliw Clinigol i Gymru 2026-27