Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Deall rôl credoau iechyd ymhlith oedolion sy’n ymgysylltu â gwasanaethau atal eilaidd a thrydyddol er mwyn byw’n dda gyda diabetes math 2: adolygiad cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Kate Shiells, Alesha Wale, Golibe Ezenwugo, Salina Khatoon, Helen Morgan, Amy Fox McNally, Hannah Shaw, Amy Hookway

Cyhoeddwyd ar: 1af Rhagfyr 2024

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae diabetes math 2 yn cynyddu yng Nghymru, ond nid yw llawer o bobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni atal na rheoli, sy’n cyfyngu ar y manteision iechyd ac yn cynyddu’r pwysau ar wasanaethau’r GIG.

Gwnaethom gynnal adolygiad cyflym gan ddefnyddio’r Model Credoau Iechyd i ddeall pam mae pobl yn dewis ymgysylltu, neu beidio ag ymgysylltu, â:

  • Rhaglenni atal eilaidd ar gyfer pobl â chyn-ddiabetes, megis rhaglenni atal diabetes.
  • Rhaglenni atal trydyddol ar gyfer pobl â diabetes math 2, gan gynnwys sgrinio ac addysg i atal cymhlethdodau.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Gwnaethom gynnal y chwiliadau ar gyfer yr adolygiad hwn ym mis Gorffennaf/Awst 2024 ar gyfer astudiaethau a gyhoeddwyd o 2000 ymlaen. Nodwyd astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2008 a 2014.

Beth wnaethom ei ganfod?

  • Nodwyd 15 o astudiaethau: 10 ar raglenni ar gyfer pobl â chyn-ddiabetes (atal eilaidd) a 5 ar raglenni ar gyfer pobl â diabetes math 2 (atal trydyddol).
  • Atal eilaidd (cyn-ddiabetes)
    • Roedd pobl yn fwy tebygol o gymryd rhan pan oeddent yn deall eu risg bersonol, yn credu y gellid gwrthdroi cyn-ddiabetes, ac yn teimlo’n hyderus ynghylch gwneud newidiadau. Roedd esboniadau clir gan weithwyr proffesiynol, lleoliadau grŵp cefnogol, a sylwi ar welliannau bach mewn iechyd hefyd yn helpu pobl i aros yn llawn cymhelliant.
    • Roedd rhwystrau’n cynnwys anawsterau ymarferol (amseru, teithio, costau), cyflyrau iechyd eraill, anghysur gyda fformatau grŵp, a chyfathrebu aneglur neu ddigalon gan weithwyr proffesiynol. Gwellodd ymgysylltiad pan oedd cyngor yn syml ac yn glir, pan oedd teulu a ffrindiau’n gefnogol, a phan oedd pobl yn cael gwiriadau rheolaidd.
  • Atal trydyddol (diabetes math 2)
    • Cynyddodd ymgysylltiad â rhaglenni sgrinio ac addysg pan oedd pobl yn deall difrifoldeb cymhlethdodau diabetes ac yn teimlo’n dawel eu meddwl ac yn cael cefnogaeth dda gan staff gofal iechyd. Roedd gwybodaeth ymarferol a chymorth gan gyfoedion hefyd yn annog cyfranogiad parhaus.
    • Roedd rhwystrau’n cynnwys gwybodaeth aneglur, anawsterau wrth gyrraedd apwyntiadau, lleoliadau anaddas, sesiynau hir, ac anghysur gyda rhai gweithdrefnau fel diferion ehangu llygaid. Roedd rhai pobl yn poeni am gael eu beirniadu, tra roedd eraill yn teimlo eu bod eisoes yn gwybod digon ac nad oedd angen mynychu.

Beth mae hyn yn ei olygu?

  • Gall sgyrsiau clir a chefnogol helpu pobl i ddeall eu risgiau a theimlo’n hyderus ynghylch ymuno â gwasanaethau. Gall esboniadau syml wneud gwybodaeth am gyn-ddiabetes a chymhlethdodau’n llai llethol. Gall sgyrsiau weithio’n well na llythyrau; a gall gwahoddiad dilynol helpu unigolion sy’n ansicr.
  • Mae cefnogaeth yn gweithio orau pan fo’n gysylltiedig â nodau personol pobl. Gall cynnig camau bach, anogaeth ac adborth helpu pan fo hyder yn isel. Gall gwiriadau rheolaidd, a chymorth gan gyfoedion, helpu i gynnal ymgysylltiad. Fodd bynnag, mae’n well gan rai pobl hunanreoliadau, felly mae cynnig yr opsiwn hwn yn bwysig.
  • Gall cynnig fformatau hyblyg (digidol neu wyneb yn wyneb, grŵp neu un i un), lleoliadau cymunedol a gwybodaeth glir am deithio a chostau leihau rhwystrau a chynnal ymgysylltiad.
  • Roedd y dystiolaeth ar gyfer atal trydyddol yn gyfyngedig ac yn cwmpasu ychydig o fathau o wasanaethau yn unig, felly efallai na fydd y canfyddiadau’n berthnasol yn eang. Hefyd, prin iawn oedd y dystiolaeth gan bobl nad ydynt yn mynychu gwasanaethau, sy’n cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei ddweud am pam nad yw pobl yn ymgysylltu, ac yn cyfyngu ar ein dealltwriaeth o beidio ag ymgysylltu.
  • Mae bylchau yn y dystiolaeth yn parhau ar gyfer darpariaeth ddigidol, a phrofiadau grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Gwybodaeth dechnegol

Gwnaethom gynnal adolygiad cyflym gan ddefnyddio dulliau adolygiad systematig symlach ond trylwyr i ganfod a chrynhoi tystiolaeth. Cynhwyswyd astudiaethau o’r DU ac Iwerddon a gyhoeddwyd yn Saesneg ar ôl 2000, a oedd yn archwilio credoau iechyd ac ymgysylltiad â gwasanaethau atal neu reoli diabetes. Gan fod canfyddiadau wedi newid dros amser, cafodd astudiaethau cynharach eu heithrio. Cafodd y canfyddiadau eu crynhoi fel y’u hadroddwyd gan yr awduron gwreiddiol, a’u dehongli gennym gan ddefnyddio’r Model Credoau Iechyd i ddod â themâu cyffredin ynghyd.

Geirfa

Cyn-ddiabetes: A elwir hefyd yn ddiabetes ymylol, mae’n gyflwr lle mae lefelau glwcos yn y gwaed yn uwch na’r arfer ond yn is na diabetes (fel arfer HbA1c 42 i 47 mmol/mol), gan nodi risg uchel o ddiabetes math 2.

Atal eilradd: Yn pwysleisio canfod clefyd yn gynnar drwy nodi’r clefyd cyn i symptomau ddatblygu ymhellach a stopio’r clefyd rhag gwaethygu, os yn bosibl. Er enghraifft, cefnogi i atal cyn-ddiabetes rhag troi’n ddiabetes math 2.

Atal trydyddol: Camau i helpu pobl i reoli symptomau ac atal datblygiad pellach y clefyd unwaith y mae eisoes wedi datblygu. Er enghraifft, cefnogi pobl sydd â diagnosis o ddiabetes math 2 i atal cymhlethdodau rhag datblygu.

Model credoau iechyd: Fframwaith ar gyfer deall pam mae pobl yn defnyddio neu beidio â defnyddio gwasanaethau iechyd. Mae’n canolbwyntio ar gredoau am risg (tuedd i gael salwch), difrifoldeb, manteision, rhwystrau, ynghyd ag ysgogiadau i weithredu a hunaneffeithlonrwydd (hyder).

Cymorth gan gyfoedion: Ymyrraeth hunanreoli â chefnogaeth lle mae pobl sydd â phrofiad byw tebyg o gyflwr hirdymor neu brofiadau iechyd yn cefnogi ei gilydd (un i un, mewn grwpiau, neu ar-lein) i feithrin hyder, datrys problemau, a lleihau unigedd.

Adolygiad cyflym: Math o synthesis tystiolaeth sy’n cyflymu’r broses o gynnal adolygiad systematig traddodiadol er mwyn cynhyrchu tystiolaeth mewn modd amser-sensitif, fel arfer i lywio penderfyniadau gofal iechyd brys.

Adolygiad systematig: Adolygiad sy’n crynhoi’r dystiolaeth ar gwestiwn adolygu wedi’i ffurfio’n glir yn unol â phrotocol a ragddiffiniwyd, gan ddefnyddio dulliau systematig ac eglur i nodi, dethol ac asesu astudiaethau perthnasol, ac i echdynnu, dadansoddi, casglu ac adrodd ar eu canfyddiadau. Gall ddefnyddio technegau ystadegol, megis meta-ddadansoddi, neu beidio.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Deall rôl credoau iechyd ymhlith oedolion sy’n ymgysylltu â gwasanaethau atal eilaidd a thrydyddol er mwyn byw’n dda gyda diabetes math 2 adolygiad cyflym

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Deall rôl credoau iechyd ymhlith oedolion sy’n ymgysylltu â gwasanaethau atal eilaidd a thrydyddol er mwyn byw’n dda gyda diabetes math 2 adolygiad cyflym (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig