Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Sgrinio’r boblogaeth ar gyfer retinopathi diabetig heb mydriasis: adolygiad cwmpasu

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Amy Hookway, Toby Ayres, Emma Richards

Cyhoeddwyd ar: 1af Ebrill 2026

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae retinopathi diabetig yn gymhlethdod cyffredin i bobl sydd â diabetes. Gan fod lefelau diabetes yn cynyddu yng Nghymru, disgwylir i gyffredinrwydd retinopathi diabetig ac afiachedd cysylltiedig gynyddu, gan osod baich ychwanegol ar wasanaethau llygaid ysbytai.

Nod Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yw canfod retinopathi diabetig yn gynnar er mwyn atal colli golwg. Ar hyn o bryd, mae sgrinio’n defnyddio diferion llygaid i ymledu cannwyll y llygad cyn tynnu delweddau o’r retina. Er bod hyn yn gwella ansawdd delweddau, mae’n gallu pylu’r golwg dros dro, sy’n golygu bod gyrru yn annoeth, ac fe all greu gorbryder i rai cleifion. Fe allai hyn rwystro pobl rhag mynychu.

Lluniwyd yr adolygiad hwn i lywio’r gwerthusiad o gamerâu anfydriatig Topcon NW500, sy’n cipio delweddau o’r retina heb ymledu cannwyll y llygad. Asesodd yr adolygiad b’un a all y dyfeisiau hyn, neu rai tebyg, ddarparu delweddau o ansawdd digon da i raddio retinopathi diabetig, ac amlygodd ffactorau sy’n gysylltiedig â delweddau o ansawdd gwael, er mwyn llywio gwerthusiad yng Nghymru.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhyrchwyd yr adolygiad cwmpasu hwn yn 2025 a chwiliwyd am dystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2015 a mis Gorffennaf 2025.

Beth wnaethom ei ganfod

  • Cynhwyswyd 15 o astudiaethau yn yr adolygiad: wyth ar gywirdeb diagnostig a naw ar ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd delweddau.
  • Nid oedd unrhyw astudiaethau’n gwerthuso’r Topcon NW500 yn benodol, ac ni chynhaliwyd yr un ohonynt yng Nghymru na’r Deyrnas Unedig.
  • Roedd cywirdeb diagnostig camerâu ffwndws 45° anfydriatig yn amrywio’n fawr. Dim ond un astudiaeth a gyrhaeddodd drothwyon Cymdeithas Ddiabetig Prydain ar gyfer sensitifrwydd (≥80%) a phenodolrwydd (≥95%), ond mae pryderon methodolegol yn cyfyngu ar hyder.
  • Mae amrywiadau sylweddol o ran nodau astudiaethau, modelau camerâu, protocolau delweddu, a safonau cyfeirio yn lleihau’r gallu i gymharu a chyffredinoli.
  • Roedd y dystiolaeth ynglŷn â ffactorau sy’n gysylltiedig â delweddau na ellid eu graddio yn gyfyngedig:
    • Henaint oedd yn gysylltiedig â delweddau o ansawdd gwael yn fwyaf cyson.
    • Awgrymodd astudiaethau unigol gysylltiadau â chataractau, cywerthedd sfferig uchel, llai o graffter golwg, gwrywod, lleiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd gwyn), ysmygu, a chyfradd uchel o brosesu cleifion.
  • Roedd pryderon ansawdd ynglŷn â’r rhan fwyaf o’r astudiaethau, gan gynnwys adrodd anghyson a chuddio aneglur.

Beth mae hyn yn ei olygu

  • Nid oes tystiolaeth ynglŷn â chywirdeb diagnostig y Topcon NW500, felly mae cyfiawnhad dros werthusiad lleol cynhwysfawr.
  • Mae canfyddiadau o gamerâu anfydriatig eraill yn dangos amrywiadau eang o ran cywirdeb, sy’n atgyfnerthu’r angen am brofi lleol.
  • Roedd nodweddion sy’n gysylltiedig â delweddau o ansawdd gwael yn deillio o ganfyddiadau astudiaeth unigol yn bennaf a dylid bod yn ofalus wrth eu cymhwyso. Fodd bynnag, fe allent helpu i amlygu pa grwpiau i ganolbwyntio arnynt yn y gwerthusiad.
  • Fe allai casglu’r nodweddion hyn yn ystod y gwerthusiad helpu i amlygu cleifion efallai y bydd angen ymledu cannwyll eu llygad o hyd, gan wella effeithlonrwydd y gwasanaeth a chyfleustra i gleifion.

Gwybodaeth dechnegol

Defnyddiwyd dulliau adolygiad cwmpasu, gan gynnwys chwiliadau cynhwysfawr o gronfeydd data a llenyddiaeth lwyd i amlygu, asesu, a chrynhoi tystiolaeth ar gyfer y cwestiynau canlynol:

  1. A all delweddu retinol anfydriatig gan ddefnyddio Topcon NW500 neu ddyfeisiau tebyg gynhyrchu delweddau o ansawdd digon da i raddio retinopathi diabetig heb ymledu cannwyll y llygad?
  2. Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â delweddau retinol anfydriatig o ansawdd gwael?

Rhestr termau

Mydriasis: Y broses o ymledu (mwyhau) cannwyll y llygad gan ddefnyddio diferion llygaid i wella ansawdd delweddau yn ystod sgrinio llygaid.

Anfydriatig: Mae hyn yn golygu “heb ymledu.” Mae’n cyfeirio at dynnu delweddau o’r retina heb ddefnyddio diferion llygaid i fwyhau cannwyll y llygad.

Camera ffwndws: Camera arbenigol a ddefnyddir i dynnu lluniau o gefn y llygad (y retina) i wirio am glefydau’r llygad.

Manylion Cydweithio

Adolygiad cydweithredol mewnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth a’r is-adran Gwasanaethau Sgrinio, a gomisiynwyd gan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Sgrinio’r boblogaeth ar gyfer retinopathi diabetig heb mydriasis: adolygiad cwmpasu

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Sgrinio’r boblogaeth ar gyfer retinopathi diabetig heb mydriasis: adolygiad cwmpasu (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig