Cynllun Ymateb i’r Hinsawdd 2026 i 2028
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Ein Llwybr i Sero Net a Gwydnwch Hinsawdd
Crynodeb gweithredol
Mae newid hinsawdd yn cael ei gydnabod fel y bygythiad mwyaf i ddynoliaeth (WHO, Cenhedloedd Unedig, WWF). Mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hamgylchedd ffisegol ac o ganlyniad yn effeithio ar weithrediad ein systemau iechyd ac iechyd y boblogaeth. Mae digwyddiadau tywydd eithafol fel sychder, llifogydd a thonnau gwres yn dod yn fwy aml, ac yn peri risg gynyddol i’n hiechyd a’n llesiant. Rhagwelir y bydd digwyddiadau fel y rhain yn dwysáu, gan effeithio ar bob agwedd ar fywyd sy’n hanfodol i gyflawni a chynnal iechyd da (RSPH, Cynghrair Iechyd y DU ar Newid Hinsawdd, WHO). Mae hyn unwaith eto wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth ddofn rhwng llesiant poblogaeth, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae ein Strategaeth Hirdymor yn cydnabod cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus Cymru fel arweinydd system ac yn ymrwymo i gymryd camau ataliol i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd yn un o’n chwe blaenoriaeth strategol ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi sawl trywydd yn ddiweddar sy’n manylu ar ein cynlluniau ar gyfer sut y gallwn gymryd camau i leihau ein heffaith ar ein hinsawdd yn y dyfodol ac felly iechyd y boblogaeth.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cynllun Ymateb i'r Hinsawdd 2026 i 2028
PDF, 888KB
Llawrlwytho PDF - Cynllun Ymateb i'r Hinsawdd 2026 i 2028 (888 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Llifogydd ac Iechyd: crynodeb o ddau adolygiad cwmpasu o’r llenyddiaeth
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae disgwyl i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder llifogydd yn y Deyrnas Unedig, gyda Chymru yn […]
Cyhoeddwyd: 1af Gorffennaf 2024
-
Cyflenwadau dŵr preifat: cwmpas ystwyth o’r llenyddiaeth
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae cyflenwadau dŵr preifat yn ffynhonnell gyffredin o ddŵr yfed mewn rhannau gwledig o’r DU. Ysgogodd yr […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2023
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]
Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026
-
Adroddiad y ddyletswydd bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau 2025
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) i gefnogi bioamrywiaeth dros y tair blynedd diwethaf. Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 […]
Cyhoeddwyd: 15fed Rhagfyr 2025
-
Monitro Marwolaethau Gwres yng Nghymru
Adroddiad Gwyliadwriaeth Blynyddol 2024 Mae newid hinsawdd yn effeithio fwyfwy ar iechyd y cyhoedd, gyda thymheredd cynyddol yn peri bygythiad sylweddol i fywyd dynol. Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill […]
Cyhoeddwyd:
-
Monitro Morbidrwydd gwres yng Nghymru
Adroddiad Gwyliadwriaeth Blynyddol 2024 Mae cyfnodau gwres yn gysylltiedig â mwy o alw am ofal iechyd brys, hyd yn oed hebdonnau gwres cenedlaethol
Cyhoeddwyd: