Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Llifogydd ac Iechyd: crynodeb o ddau adolygiad cwmpasu o’r llenyddiaeth

Manylion:

Awduron: Y Gwasanaeth Tystiolaeth, Golibe Ezenwugo, Amy Hookway, Kate Shiells , Alesha Wale

Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2024

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae disgwyl i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder llifogydd yn y Deyrnas Unedig, gyda Chymru yn arbennig o agored i niwed. Mae llifogydd yn peri heriau tymor byr a hirdymor sylweddol i iechyd corfforol a seicolegol pobl.

Er mwyn llywio agenda ymchwil newid yn yr hinsawdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, cynhaliwyd dau adolygiad cwmpasu i archwilio: 

  1. effeithiolrwydd systemau rhybuddion cynnar rhag llifogydd o ran lliniaru effeithiau llifogydd ar iechyd, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau andwyol; ac
  2. effeithiolrwydd ymyriadau seicogymdeithasol wrth gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd neu ar ôl llifogydd.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliwyd yr adolygiads hwn yn 2024 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2004 a 2023.

Beth wnaethom ei ganfod

Yn yr adolygiad cyntaf, nodwyd saith astudiaeth oedd yn archwilio effeithiolrwydd systemau rhybuddion cynnar rhag llifogydd ar ganlyniadau iechyd megis marwolaeth, anaf corfforol, ac anhwylder straen ôl-drawmatig. Roedd y canlyniadau’n gymysg ynghylch a oedd cael rhybudd wedi cael effaith lliniarol ar iechyd pobl a brofodd lifogydd. Fodd bynnag, awgrymodd peth o’r ymchwil, ymhlith y rhai a gafodd rhybudd llifogydd, y mwyaf o rybudd a gafwyd y lleiaf oedd yr effeithiau negyddol ar iechyd. Roedd gan y rhan fwyaf o astudiaethau ddiffygion methodolegol, gan leihau hyder yn y canfyddiadau.

Yn yr ail adolygiad, nodwyd tri adolygiad llenyddiaeth ac un canllaw yn archwilio ymyriadau iechyd meddwl ar ôl llifogydd. Fodd bynnag, roedd ansawdd y rhain yn gyfyngedig. Awgrymodd yr adolygiadau y gellir diwallu’r rhan fwyaf o anghenion seicolegol ar ôl llifogydd drwy deulu a ffrindiau.  Fodd bynnag, gallai fod angen cymorth mwy arbenigol ar rai unigolion, ac mae canllawiau  Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn argymell dull pedair haen ar gyfer lleihau effaith llifogydd ar iechyd meddwl. Ni ddarganfuwyd unrhyw adolygiadau a oedd yn archwilio ymyriadau ar gyfer pobl mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. 

Beth mae hyn yn ei olygu

Mae’r ddau adolygiad yn amlygu bylchau sylweddol yn y sylfaen dystiolaeth, gyda diffyg tystiolaeth eilaidd o ansawdd uchel ar effeithiolrwydd ymyriadau iechyd meddwl mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd neu ar ôl llifogydd. Yn ogystal, nid oes digon o ymchwil i effeithiolrwydd systemau rhybuddion cynnar rhag llifogydd ar ganlyniadau iechyd. 

Gwybodaeth dechnegol

Mae adolygiadau cwmpasu ystwyth yn defnyddio methodoleg gyflym i ddarparu trosolwg eang o’r sylfaen dystiolaeth ar bwnc o ddiddordeb. Eu bwriad yw arwain a llywio gwaith pellach yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer polisi ac ymarfer. Mae’r ffactorau sy’n berthnasol i ateb y cwestiwn uchod a nodwyd o’r astudiaethau wedi’u tynnu a’u crynhoi’n gryno yn yr adroddiad hwn. Os yw ffactor penodol o ddiddordeb, fe’ch cynghorir i ddarllen y ffynonellau lle cawsant eu cymryd yn fwy manwl.

Lawrlwythiadau adroddiadau

A yw systemau rhybudd cynnar o lifogydd yn effeithiol ar gyfer lliniaru effeithiau iechyd llifogydd: Adolygiad cwmpasu ystwyth o'r llenyddiaeth

PDF, 384KB

Llawrlwytho PDF - A yw systemau rhybudd cynnar o lifogydd yn effeithiol ar gyfer lliniaru effeithiau iechyd llifogydd: Adolygiad cwmpasu ystwyth o'r llenyddiaeth (384 KB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill:

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig