Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cynllun Ymateb i’r Hinsawdd 2026 i 2028

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Ein Llwybr i Sero Net a Gwydnwch Hinsawdd

Crynodeb gweithredol

Mae newid hinsawdd yn cael ei gydnabod fel y bygythiad mwyaf i ddynoliaeth (WHO, Cenhedloedd Unedig, WWF). Mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hamgylchedd ffisegol ac o ganlyniad yn effeithio ar weithrediad ein systemau iechyd ac iechyd y boblogaeth. Mae digwyddiadau tywydd eithafol fel sychder, llifogydd a thonnau gwres yn dod yn fwy aml, ac yn peri risg gynyddol i’n hiechyd a’n llesiant. Rhagwelir y bydd digwyddiadau fel y rhain yn dwysáu, gan effeithio ar bob agwedd ar fywyd sy’n hanfodol i gyflawni a chynnal iechyd da (RSPH, Cynghrair Iechyd y DU ar Newid Hinsawdd, WHO). Mae hyn unwaith eto wedi amlygu’r gyd-ddibyniaeth ddofn rhwng llesiant poblogaeth, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Mae ein Strategaeth Hirdymor yn cydnabod cyfrifoldeb Iechyd Cyhoeddus Cymru fel arweinydd system ac yn ymrwymo i gymryd camau ataliol i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd yn un o’n chwe blaenoriaeth strategol ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi sawl trywydd yn ddiweddar sy’n manylu ar ein cynlluniau ar gyfer sut y gallwn gymryd camau i leihau ein heffaith ar ein hinsawdd yn y dyfodol ac felly iechyd y boblogaeth.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cynllun Ymateb i'r Hinsawdd 2026 i 2028

PDF, 888KB

Llawrlwytho PDF - Cynllun Ymateb i'r Hinsawdd 2026 i 2028 (888 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig