Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru: Mewnwelediadau, tystiolaeth a datrysiadau

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru: Mewnwelediadau, tystiolaeth a datrysiadau

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Pam mae rhai pobl yn byw bywydau hirach ac iachach nag eraill? Er bod gofal iechyd yn chwarae rhan bwysig, mae ein hiechyd yn cael ei lunio gan set llawer ehangach o ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Mae’r weminar hon yn archwilio achosion a chanlyniadau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, gan archwilio sut mae ffactorau fel incwm, tai, addysg, cyflogaeth a’r lleoedd rydyn ni’n byw yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd a chyfleoedd ar gyfer iechyd da.

Cafodd y mynychwyr drosolwg o gysyniadau a terminoleg allweddol, dysgodd am y dystiolaeth ddiweddaraf ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, a chlywodd am ddulliau cenedlaethol a rhyngwladol o wella tegwch iechyd. Tynnodd y sesiwn sylw hefyd at agenda Tegwch Iechyd Cymru, uchelgais Cymru fel Cenedl Marmot, a dysgu o fentrau byd-eang i leihau gwahaniaethau annheg ac osgoadwy mewn iechyd.

Gan ddod ag arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Cydraddoldeb Iechyd at ei gilydd, rhoddodd y weminar hon fewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu cyfleoedd tecach ar gyfer iechyd a lles ledled Cymru

 

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o weminarau anghydraddoldebau iechyd. Dyma ddyddiadau’r digwyddiadau eraill a bydd rhagor o fanylion yn cael eu hanfon allan yn fuan:

12 Tachwedd 2026 10:00 – 12:00 – Natur er budd Tegwch Iechyd: Creu Cymunedau Tecach, Gwyrddach ac Iachach

26 Tachwedd 2026, 13:00-14:00 – Pontio’r Bwlch rhwng Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd: Cryfhau Partneriaethau ar gyfer Gwaith Ataliol

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

HI webinar 300926

PDF, 6MB

Llawrlwytho PDF - HI webinar 300926 (6 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad