Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Strategaeth tegwch sgrinio 2022-2025

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Ein gweledigaeth, ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, yw bod gan bawb sy’n gymwys ar gyfer profion sgrinio fynediad a chyfle teg i fanteisio ar ei gynnig sgrinio drwy ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis personol ar sail gwybodaeth. Diben y strategaeth hon yw nodi sut y gallwn, drwy gydweithio â’n partneriaid mewn Byrddau Iechyd Lleol; y trydydd sector a phobl Cymru, gyflawni’r uchelgais hwn.

Mae dewis cymryd rhan mewn profion sgrinio ai peidio yn ddewis i’r unigolyn sy’n gyson â’i werthoedd a’i amgylchiadau unigryw. Fodd bynnag, nid yw rhai pobl yn gwneud penderfyniad i wrthod prawf sgrinio, ond ni allant dderbyn eu cynnig oherwydd amrywiaeth o rwystrau cysylltiedig. Gall y rhwystrau hyn gynnwys heriau logistaidd neu gorfforol wedi’u sbarduno gan ffactorau economaidd neu amgylcheddol sy’n lleihau mynediad at leoliadau lle y cynhelir profion sgrinio. Mae’n bosibl nad yw pobl eraill wedi cael gwybodaeth mewn fformatau neu ieithoedd priodol i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i wneud dewis ar sail gwybodaeth. Mae’n bosibl nad yw eraill o’r farn bod profion sgrinio ataliol yn rhan o’u norm cymdeithasol neu eu hunaniaeth ddiwylliannol. Gall y rhwystrau hyn fod yn berthnasol yn genedlaethol neu’n lleol a gallant fod yn benodol i raglen neu ymwneud â chymuned neu unigolyn.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Strategaeth Tegwch Sgrinio 2022-2025

Word doc, 399KB

Llawrlwytho Word doc - Strategaeth Tegwch Sgrinio 2022-2025 (399 KB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig