Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 18fed Awst 2026

Crynodeb gweithredol

Ein gweledigaeth yw y gall pawb yng Nghymru sy’n gymwys i gael eu sgrinio gael mynediad at eu prawf sgrinio’n hawdd a bod ganddyn nhw gyfle teg i gymryd rhan. Rydym eisiau i bobl gael gwybodaeth glir a dibynadwy fel y gallant wneud y dewis sy’n iawn iddyn nhw.  

Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cydweithio â Byrddau Iechyd Lleol, y sector cymunedol a gwirfoddol, a phobl ledled Cymru drwy gydol eu bywyd i wneud i hyn ddigwydd. Mae’n adeiladu ar ein Strategaeth Tegwch ym maes Sgrinio 2022-20251 flaenorol ac yn ystyried trafodaethau byrddau ac ymgysylltu â phobl sy’n ymwneud â darparu sgrinio a phobl sy’n derbyn sgrinio i ddarganfod pa gamau y gallwn eu cymryd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.  

I chwalu rhwystrau a chau’r bwlch, nid yw cynnig yr un gwasanaeth i bawb yn ddigon. Os oes gan bobl anghenion ychwanegol, yna mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnig cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw er mynediad a deilliannau teg. Yn aml, y bobl nad ydynt yn derbyn ein cynnig sgrinio pan gânt eu gwahodd gyntaf yw’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael y cyflyrau a’r clefydau rydym yn sgrinio amdanynt. Er mwyn lleihau annhegwch sgrinio, mae angen i ni ganolbwyntio ar gamau gweithredu a fydd yn helpu ein gwasanaethau i ddarparu ar gyfer pawb, fel y gallwn greu Cymru lle mae gan bawb gyfle teg i fyw’n dda a byw’n hirach mewn iechyd da. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ein rhaglenni sgrinio presennol a sut rydym yn eu cyflwyno. Byddai disgwyl y byddai unrhyw raglenni sgrinio yn y dyfodol hefyd yn cyd-fynd â’r egwyddorion hyn. 

Nododd ein strategaeth flaenorol bum maes gweithredu allweddol. Yn y strategaeth newydd hon, rydym wedi adnewyddu ac ail-lunio’r meysydd gweithredu allweddol hyn ar gyfer cam nesaf ein gwaith. Y meysydd gweithredu allweddol yw: 

  • Datblygu a rhannu gwybodaeth hygyrch 
  • Gweithio gyda’n gilydd 
  • Defnyddio ein gwasanaethau 
  • Dysgu, hyfforddiant a datblygiad 
  • Monitro a gwerthuso effaith  

Er mwyn cyflawni’r meysydd gweithredu allweddol, byddwn yn:

Datblygu a rhannu gwybodaeth hygyrch

  • Lle bo modd, ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gwybodaeth syml a hawdd ei deall am sgrinio mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch fel y gall pobl benderfynu a ydynt am dderbyn eu cynnig sgrinio.  
  • Anelu at ddiwallu anghenion cyfathrebu ac iaith pobl gyda gwybodaeth yn eu dewis fformat.  
  • Symud i ddull digidol yn gyntaf i gyfathrebu â phobl. 

Gweithio gyda’n gilydd 

  • Gweithio gyda thimau gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd yn y Byrddau Iechyd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cefnogi i fanteisio ar eu cynnig sgrinio 
  • Gweithio gyda chymunedau a phartneriaid sector cymunedol a gwirfoddol i wneud yn siŵr bod gan bawb wybodaeth ddibynadwy am sgrinio 
  • Cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o sgrinio a chefnogi rhwydweithiau tegwch ym maes sgrinio 

Defnyddio ein gwasanaethau 

  • Cynllunio ein gwasanaethau gyda thegwch a chanolbwyntio ar yr unigolyn fel egwyddorion craidd i wella hygyrchedd canolfannau sgrinio 
  • Datblygu cynnig apwyntiadau sgrinio sy’n fwy hyblyg a darparu ffyrdd hygyrch i bobl newid eu hapwyntiadau gyda’r nod o gyflwyno dulliau ar-lein o drefnu apwyntiad 
  • Datblygu awgrymiadau a chefnogaeth i bobl ar hyd y llwybr sgrinio a all gynnwys cyfathrebu sy’n ystyriol o ymddygiad, negeseuon testun ar gyfer hysbysiadau a galwadau ffôn wedi’u targedu ar gyfer y rhai nad ydynt yn ymateb  

Dysgu, hyfforddiant a datblygiad

  • Cefnogi’r system sgrinio i feithrin ei gwybodaeth a’i sgiliau i sicrhau bod nifer teg yn cael eu sgrinio 
  • Datblygu gweithlu sgrinio sy’n deall grwpiau sydd heb eu sgrinio’n ddigonol a’r ffordd orau o gynnig cefnogaeth 
  • Profi a gwerthuso ymyriadau newydd i gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio a lleihau annhegwch ym maes sgrinio, gan fod yn arloesol wrth dreialu syniadau newydd  

Monitro a gwerthuso ein heffaith

  • Gwella ein gwaith cipio data i gynyddu ein dealltwriaeth o boblogaethau sydd heb eu sgrinio’n ddigonol 
  • Rhannu data i nodi lle mae nifer isel o bobl yn cael eu sgrinio a monitro effaith camau gweithredu i wella nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio 
  • Darparu adroddiadau rheolaidd a phrydlon ar berfformiad sgrinio  

Bydd cyflawni tegwch ym maes sgrinio yn cymryd amser a bydd angen iddo fod yn faes gweithredu parhaus y tu hwnt i amserlen y strategaeth hon. Fodd bynnag, rydym am weld cynnydd tuag at gyflawni ein gweledigaeth, sef y gall pawb yng Nghymru sy’n gymwys i gael eu sgrinio gael eu prawf sgrinio yn hawdd a chael cyfle teg i gymryd rhan. Drwy gyflawni’r ymrwymiadau allweddol a amlinellir yn y strategaeth, byddwn yn gwneud cynnydd wrth gyflawni’r weledigaeth hon. Byddwn nawr yn rhoi’r strategaeth ar waith gyda Chynllun Gweithredu Tegwch yr Is-adran Sgrinio, i’w gyflawni gan yr Is-adran Sgrinio. Bydd hwn yn nodi pa gamau y mae angen i ni eu cymryd, pwy fydd yn eu gwneud ac erbyn pryd.  

Mae’r Strategaeth Tegwch ym maes Sgrinio newydd hon yn uchelgeisiol. Mae’n gofyn am gamau pwrpasol ac ymroddedig o fewn yr Is-adran Sgrinio ond hefyd cefnogaeth gan ein partneriaid ar draws y system sgrinio ehangach. Ond, drwy gydweithio, gallwn chwalu rhwystrau a chau’r bwlch tegwch ym maes sgrinio.  

Lawrlwythiadau adroddiadau

Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Strategaeth tegwch ym maes sgrinio 2025 i 2031 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig