Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adolygiad cyflym o rwystrau a hwyluswyr manteisio ar sgrinio am ganser mewn poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie, Amy Hookway, Alesha Wale, Jordan Everitt, Hannah Shaw, Ruth Lewis, Alison Cooper, Adrian Edwards

Cyhoeddwyd ar: 1af Mehefin 2022

Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae’r GIG yn darparu rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, y fron a cheg y groth. Gohiriwyd y rhaglenni sgrinio hyn ar ddechrau’r pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020, sy’n golygu y bu oedi ag apwyntiadau llawer iawn o bobl. 

Bu’r adolygiad hwn yn edrych ar ba resymau a allai atal, neu a allai beidio ag atal pobl, yn enwedig y rheini o grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol, rhag mynychu apwyntiadau sgrinio ac yn edrych i weld a oedd yna unrhyw wahaniaeth yn y rhesymau a roddwyd o’u cymharu â’r rhesymau cyn y pandemig.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn Mai 2022 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2017 a 2022.

Beth wnaethom ei ganfod

Nodwyd deg o astudiaethau. Roedd pump o’r astudiaethau wedi’u cynnal yn ystod y pandemig a phump ohonyn nhw wedi’u cynnal cyn y pandemig. Ni wnaeth yr un o’r astudiaethau edrych ar boblogaethau heb eu gwasanaethu’n ddigonol ar eu pennau eu hunain.

Roedd y rhesymau pam y gallai pobl beidio â mynychu apwyntiadau sgrinio’n cynnwys: ofn; embaras; stigma, diffyg addysg a chefnogaeth; rhwystrau ieithyddol a diwylliannol ac amseroedd apwyntiadau. Roedd y rhesymau pam y gallai pobl fynychu apwyntiadau sgrinio’n cynnwys: clywed straeon pobl am sgrinio a chanser; ymddiriedaeth a chefnogaeth ieithyddol.

Beth mae hyn yn ei olygu

Ni wnaeth yr astudiaethau ddangos unrhyw wahaniaeth rhwng y cyfnod cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig, o ran y rhesymau pam y gallai poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol fynychu apwyntiadau sgrinio neu beidio.  Nid yw’n glir a yw hyn oherwydd nad oes yna unrhyw wahaniaeth yn rhesymau pobl, neu oherwydd nad oes yna ddigon o ymchwil yn y maes hwn.

Gwybodaeth dechnegol

Mae ein Hadolygiadau Cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan dalu sylw i duedd ar yr un pryd.

Awdur cryno

Alexandra Strong

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adolygiad cyflym o rwystrau a hwyluswyr manteisio ar sgrinio am ganser mewn poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol

PDF, 280KB

Llawrlwytho PDF - Adolygiad cyflym o rwystrau a hwyluswyr manteisio ar sgrinio am ganser mewn poblogaethau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol (280 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig