Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru

Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2026

Oherwydd problemau argaeledd data, ni allwn ddiweddaru ein hadroddiad patholeg ym mis Mehefin 2026 fel y dywedwyd yn flaenorol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a byddem yn croesawu unrhyw adborth am sut mae hyn wedi effeithio ar eich gwaith.

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen sylfaenol (ac eithrio NMSC) yng Nghymru ar gyfer y safleoedd canser: pob canser, y prostad, y fron, yr ysgyfaint, y colon a’r rhefr a’r ofari.

Prif bwyntiau

Mae archwilio samplau patholeg canser misol yn caniatáu amcangyfrifon mwy amserol o fynychder canser yng Nghymru. Mae’r ystadegau arbrofol newydd hyn yn rhoi cipolwg cyflym ar effaith pandemig COVID-19 ar achosion newydd o ganserau  a gadarnhawyd gan batholeg, sut roedd yr effaith hon yn wahanol rhwng y mathau o ganser a ddadansoddwyd, a gwell dealltwriaeth o sut mae diagnosau canser wedi adfer ar ôl y pandemig. 

Cofrestriadau canser yw’r ffynhonnell ddata fwyaf awdurdodol o hyd ar gyfer mynychder canser. Fodd bynnag, mae’r amser a gymerir i brosesu a dilysu data gan swyddogion cofrestru canser arbenigol yn golygu bod oedi o 18 mis cyn cyhoeddi yn arferol. Mae cyfran fawr o ddiagnosau canser yn cael eu cofrestru gan ddefnyddio cronfeydd data patholeg, felly gall cyfrif samplau patholeg gynnig amcangyfrif mwy amserol o fynychder canser.

Mae’n bwysig nodi nad yw pob achos newydd o ganser yn cael ei wirio trwy batholeg a gall dibynnu ar wybodaeth patholeg yn unig arwain at danamcangyfrif nifer gwirioneddol yr achosion o ganser o gymharu â data cofrestru canser. At hynny, gall y gwahanol ddulliau o ganfod canser ddibynnu ar y math o ganser, felly gall data patholeg gynnig amcangyfrifon mwy cymaradwy i ddata cofrestru ar gyfer rhai mathau o ganser o gymharu â safleoedd eraill. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli data patholeg.

Tablau data

Cyrchu’r data

Gwybodaeth dechnegol

Cyrchu’r canllaw technegol offeryn adrodd canser

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig