Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Pam mae achosion o ganser y croen nad yw’n felanoma ar gynnydd yng Nghmru: adolygiad cwmpasu ystwyth o’r llenyddiaeth

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Salina Khatoon, Hannah Shaw

Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2024

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Yn ystod 2019, roedd yn cyfrif am 94% o’r holl ganserau’r croen. Mae cyfraddau digwydded yr NMSC wedi’u safoni yn ôl oedran wedi codi 7.1% rhwng 2016 a 2019 i 469.8 fesul 100,000 yng Nghymru. Mae’r rheswm am y cynnydd hwn yng Nghymru yn parhau i fod yn aneglur ar y cyfan. Ceisiodd y Gwasanaeth Tystiolaeth nodi pam y gallai cyfraddau NMSC fod yn codi yng Nghymru.

Prif bwyntiau

Beth wnaethom ei ganfod

Ni nodwyd unrhyw adolygiadau systematig yn archwilio’r cysylltiad rhwng y duedd o ran amlygiad ffactorau risg hanesyddol â thuedd mewn cyfraddau NMSC. Fodd bynnag, cafodd saith adolygiad systematig yn archwilio’r cysylltiad rhwng ffactorau risg penodol a’r NMSC eu cynnwys a’u cynnal yn gyffredinol fel rhan o ddadansoddiad is-grŵp. Roedd amlygiad hirdymor i ymbelydredd uwchfioled, y defnydd o feddyginiaeth gwrthorbwysedd, y defnydd o therapi hormonau diwedd y mislif, y defnydd o corticosteroidau argroenol, y defnydd o eli haul, ac ysmygu yn ffactorau risg allweddol a nodwyd fel rhai sydd â pherthynas bosibl â NMSC. Gallent gyfrannu at y cyfraddau digwydded uwch a welir yng Nghymru. Mae’r berthynas rhwng ffactorau risg a’r NMSC yn ymddangos yn hynod gymhleth a gall amrywio yn ôl y math o ganser y croen. Er enghraifft, nododd rhai astudiaethau sylfaenol ysmygu fel rhywbeth amddiffynnol ymhlith dynion, ond nid menywod. Hefyd, mae’n ymddangos bod y berthynas yn amrywio ar draws gwahanol is-fathau canser y croen. Roedd diffyg adolygiadau systematig o ansawdd da yn ymchwilio i losg haul, teithio tramor, a’r defnydd o amlygiad lliw haul dan do a’r berthynas ymateb dos bosibl gyda’r NMSC. Mae’r canfyddiadau a nodwyd yn debygol o fod yn gyffredinol i boblogaeth y DU, gan fod y rhan fwyaf o astudiaethau a gynhwyswyd wedi’u cynnal ledled Ewrop ac UDA. Fodd bynnag, mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod tueddiadau sy’n gysylltiedig â’r ffactorau risg a nodwyd yn debygol o amrywio ar draws gwledydd, er enghraifft amlygiad i’r haul.

Beth mae hyn yn ei olygu

Nid oedd yn bosibl dod i gasgliadau cadarn am y berthynas rhwng ymateb dos neu hyd amlygiad i ffactorau penodol a’r risg o NMSC oherwydd y sylfaen dystiolaeth gyfyngedig a diffyg data hydredol ar lefel adolygiad systematig.  Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y berthynas rhwng ffactorau risg a’r NMSC yn gymhleth. Mae’r adolygiad hwn yn amlygu nifer o ffactorau risg posibl a allai warantu ymchwiliad pellach, ar lefel astudiaeth gynradd.

Gwybodaeth dechnegol

Gan ddefnyddio methodoleg cwmpas ystwyth, ceisiwyd nodi a oes cydberthynas ag un neu fwy o’r ffactorau risg hysbys dros amser. Yn benodol, ceisiom sefydlu pam mae achosion o ganser y croen nad yw’n felanoma yn cynyddu yng Nghymru.

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig