Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Marwolaethau canser yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru

Cyhoeddwyd ar: 15fed Gorffennaf 2026

Cyheoddiad nesaf: I’w gadarnhau (2027)

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2025 ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phumedau amddifadedd ardal.

Prif bwyntiau

Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru o hyd. Yn 2025, roedd 9,053 o farwolaethau o ganser, gan gyfrif am dros chwarter o’r holl farwolaethau (Ffigur 1).

Ffigur 1: Nifer y marwolaethau o ganser o’i gymharu ag achosion marwolaeth eraill yng Nghymru yn 2025

Marwolaethau yn ôl grŵp achos eang, cyfrif, pobl, pob oedran, Cymru, 2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (MIC) o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Siart far lorweddol yn dangos nifer y marwolaethau yn ôl grŵp achos bras yng Nghymru yn 2025. Cancr oedd y prif achos marwolaeth, gan gyfrif am 9,053 o farwolaethau, ac yna clefydau'r system gylchrediad gwaed oedd â 8,464 o farwolaethau. Roedd clefydau anadlol, dementia a chlefyd Alzheimer, a chlefydau'r system dreulio ymhlith y prif achosion marwolaeth eraill.

Roedd nifer y marwolaethau o ganser yn codi’n araf am flynyddoedd cyn y pandemig, yn bennaf oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio (Ffigur 2).

Mae’n rhy gynnar o hyd i ddeall effaith y pandemig yn llawn. Stopiodd nifer y marwolaethau blynyddol o ganser gynyddu, gyda marwolaethau o ganser ychydig yn llai yn 2025 nag yn 2024 a chyn y pandemig (Ffigur 2). Nid yw’n glir eto a fydd hyn yn parhau.

Ffigur 2: Tueddiadau yn nifer y marwolaethau o ganser ymhlith dynion, menywod a phobl yng Nghymru

Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, cyfrif, pob canser ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma (CCNF), pob oedran, Cymru, 2002-2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio MIC o’r SYG

Siart linell yn dangos nifer y marwolaethau o ganser yng Nghymru rhwng 2002 a 2025 ar gyfer dynion, menywod a phersonau. Cynyddodd nifer y marwolaethau o ganser yn gyffredinol dros y cyfnod, ac roedd mwy o farwolaethau ymhlith dynion nag ymhlith menywod drwyddo draw. Yn dilyn cynnydd graddol cyn y pandemig, mae nifer y marwolaethau wedi aros yn weddol sefydlog yn y blynyddoedd diweddar.

Ond pan ystyriwn newidiadau yn strwythur y boblogaeth yn ôl ei faint, oedran a rhyw, roedd cyfraddau marwolaethau o ganser wedi gostwng mewn dynion ac wedi aros tua’r un fath mewn menywod, yn enwedig yn dilyn y pandemig (Ffigur 3).

Ffigur 3: Tueddiadau mewn cyfraddau marwolaethau o ganser ymhlith dynion, menywod a phobl yng Nghymru

Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, cyfradd wedi ei safoni yn ôl oed Ewropeaidd, pob canser ac eithrio CCNF, pob oedran, Cymru, 2002-2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio MIC ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn o’r SYG

Siart linell yn dangos cyfraddau marwolaethau o ganser yn Ewrop wedi'u safoni yn ôl oedran yng Nghymru o 2002 i 2025 ar gyfer dynion, menywod a phersonau. Yn gyffredinol, gostyngodd cyfraddau marwolaethau o ganser dros y cyfnod ar gyfer pob grŵp, gyda'r cyfraddau'n parhau i fod yn uwch ymhlith dynion nag ymhlith menywod drwy gydol y cyfnod. Roedd y gostyngiad yn fwyaf amlwg ymhlith dynion, tra bod y cyfraddau ar gyfer menywod wedi newid yn fwy graddol.

Roedd bron i 6 o bob 10 (59%) o’r marwolaethau o ganser ymhlith pobl 75 oed a hŷn yn 2025. Cynyddodd hyn o bron i 5 o bob 10 (48%) yn 2002, gan adlewyrchu’r boblogaeth sy’n heneiddio (Ffigur 4).

Ffigur 4: Tueddiadau yn nifer y marwolaethau o ganser mewn gwahanol gwrpiau oedran yng Nghymru

Marwolaethau o ganser yn ôl grŵp oedran, cyfrif, pob canser ac eithrio CCNF, pobl, Cymru, 2002-2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio MIC o’r SYG

Siart linell yn dangos nifer y marwolaethau o ganser yng Nghymru o 2002 i 2025 yn ôl grŵp oedran. Pobl 75 oed a hŷn a gyfrifodd am y nifer uchaf o farwolaethau o ganlyniad i ganser drwy gydol y cyfnod, a hwy a ddangosodd y cynnydd mwyaf dros amser. Arhosodd nifer y marwolaethau ymhlith grwpiau oedran iau yn is, ac ni chafwyd fawr o newid mewn cymhariaeth.

Mae gan bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig gyfraddau marwolaeth uwch o ganser. Yn 2025, roedd cyfraddau marwolaethau unwaith a hanner (54%) yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn y bwlch hwn dros amser (Ffigur 5).

Ffigur 5: Tueddiadau mewn cyfraddau marwolaethau o ganser yng Nghymru yn ôl pumed amddifadedd ardal

Marwolaethau o ganser yn ôl pumed amddifadedd, cyfradd wedi ei safoni yn ôl oed Ewropeaidd, pob canser ac eithrio CCNF, pobl, pob oedran, Cymru, 2002-2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio MIC ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn o’r SYG a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) o’r Llywodraeth Cymru

Siart linell yn dangos cyfraddau marwolaethau o ganser yn Ewrop wedi'u safoni yn ôl oedran yng Nghymru o 2002 i 2025 ar gyfer yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Roedd cyfraddau marwolaethau yn gyson uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig drwy gydol y cyfnod. Gostyngodd y cyfraddau dros amser yn y ddau grŵp, ond arhosodd y bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn ddigyfnewid i raddau helaeth.

Achosodd pedwar prif fath o ganser — yr ysgyfaint, y coluddyn, y prostad, a chanser y fron ymhlith benywod — 4 o bob 10 (44%) o farwolaethau o ganser. Digwyddodd y rhan fwyaf o farwolaethau ar gyfer pob math ymhlith pobl 75 oed a hŷn. Canser yr ysgyfaint yw’r prif achos, ac mae’n gyfrifol am 2 o bob 10 (20%) o farwolaethau o ganser. Canser y coluddyn (y colon a’r rhefr) sy’n dod nesaf (Ffigur 6).

Ffigur 6: Nifer y marwolaethau o ganser yng Nghymru yn ôl y prif fathau o ganser yn 2025

Marwolaethau o ganser yn ôl math o ganser, cyfrif, pobl, pob oedran, Cymru, 2025

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio MIC o’r SYG

Siart far lorweddol yn dangos nifer y marwolaethau o'r pedwar math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru yn 2025. Canser yr ysgyfaint a achosodd y nifer uchaf o farwolaethau o ganser, gyda 1,770 o farwolaethau, ac yna canser y coluddyn gyda 1,061 o farwolaethau, canser y prostad gyda 633 o farwolaethau, a chanser y fron ymhlith menywod gyda 559 o farwolaethau.

Tablau data

Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn

Gwybodaeth dechnegol

Cyrchu’r canllaw technegol offeryn adrodd canser

Rhestr cyn cyhoeddi

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig