Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb
Awduron: Arthur Duncan-Jones, Bethan Patterson, Rachel Burton, Rhian Hughes, Lloyd Evans, Nathan Lester
Cyhoeddwyd ar: 9fed Mehefin 2022
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae disgwyliad oes yn fesur o flynyddoedd disgwyliedig bywyd ar gyfartaledd ar gyfer baban newydd-anedig yn seiliedig ar gyfraddau marwolaeth a arsylwyd yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach yn cynrychioli nifer y blynyddoedd y disgwylir i berson fyw mewn iechyd da neu dda iawn. Amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol yw’r ddau fesur.
Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae’r dull wedi newid ers rhyddhau disgwyliadau iechyd blaenorol, i wella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Cyfrifwyd y bwlch yn flaenorol gan ddefnyddio Mynegai Goleddf Anghydraddoldeb (MGA). Mae ONS yn parhau i gyhoeddi’r MGA ar lefel genedlaethol fel rhan o’u datganiad DOI (Saesneg yn unig). Mae’n bwysig cofio y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sydd yn cynnwys gwahaniaethau mwy eithafol o ran lefelau amddifadedd yn anochel yn arwain at fylchau ehangach mewn disgwyliadau iechyd, o’u cymharu ag ardaloedd sydd yn fwy tebyg yn economaidd-gymdeithasol.
Cyflwyniad
Mae disgwyliad oes (LE), disgwyliad oes iach (HLE) a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig yn y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus (PHOF). Mae’r bwlch anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes iach yn ddangosydd cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a oedd yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Mynegai ‘Slope’ ar gyfer Anghydraddoldeb (SII).
Arferai Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHWO) ddefnyddio Arolwg Iechyd Cymru (WHS) i fesur disgwyliad oes iach a’i fwlch anghydraddoldeb, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach ers i Arolwg Iechyd Cymru ddod i ben yn 2015. Yn lle hynny, penderfynodd yr Arsyllfa ddefnyddio’r un arolwg â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sef yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS).
Oherwydd pryderon ynghylch dilysrwydd y SII ar lefelau lleol, penderfynodd yr Arsyllfa hefyd fesur y bwlch anghydraddoldeb ar gyfer disgwyliad oes a disgwyliad oes iach gan ddefnyddio’r gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed â’r amddifadedd lleiaf a’r pumed â’r amddifadedd mwyaf. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwahaniaethau rhwng y ddau ddull ac yn cymharu’r canlyniadau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb
PDF, 429KB
Llawrlwytho PDF - Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb (429 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Cyffredinolrwydd cymesur i leihau anghydraddoldebau iechyd: cwmpas ystwyth o’r llenyddiaeth eilaidd
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her fawr, gyda phobl sydd â llai o adnoddau […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2023
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2026
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]
Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026
-
Pa grwpiau poblogaeth sydd wedi cael eu hastudio mewn profion cyffuriau colli pwysau? A pha mor effeithiol yw’r cyffuriau yn y grwpiau hyn: cylch ehangach o’r llenyddiaeth
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae gordewdra yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru, ac mae dulliau effeithiol o helpu pobl i […]
Cyhoeddwyd: 1af Medi 2025
-
Fframwaith Galluoedd a Hyfforddiant Amlbroffesiynol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cynhwysiant, Carchardai a Dalfeydd yng Nghymru
Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r galluoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau allweddol ar gyfer staff gofal iechyd aml-broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl sydd â nifer o anghenion iechyd a gofalcymdeithasol difrifol […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 17, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 9, 2022