Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Defnydd o’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli iechyd yng Nghymru – dewisiadau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol

Manylion:

Awduron: Diana Bright, Karen Hodgson, Enfys Preece, Alisha R. Davies

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2023

  • Yn ystod gaeaf 2021/22, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg gyda sampl genedlaethol o 2,448 o breswylwyr yng Nghymru, 16+ oed i ddeall sut roedd pobl yn defnyddio technolegau digidol mewn perthynas â’u hiechyd yng Nghymru, sut mae hyn wedi newid ers i bandemig COVID-19 ddechrau, a’u dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
  • Nododd 6% o bobl eu bod heb fynediad i’r rhyngrwyd gartref, ac ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth bod mynediad i’r rhyngrwyd wedi newid ers i’r pandemig ddechrau.
  • Gofynnwyd i bobl â mynediad i’r rhyngrwyd am bum gweithgaredd yn ymwneud ag iechyd a pha mor aml yr oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer bob un o’r rhain;
  1. olrhain ymddygiad iach,
  2. dod o hyd i wybodaeth am iechyd,
  3. gwneud cais am apwyntiadau neu bresgripsiynau,
  4. derbyn gofal clinigol neu
  5. ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â COVID-19 (e.e. olrhain symptomau, archebu brechlyn COVID-19)

  • Ers i’r pandemig ddechrau, mae 46% o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd yn aml ar gyfer o leiaf un o’r 5 gweithgaredd yma; roedd gweithgareddau’n ymwneud â COVID-19 gan amlaf yn cael eu cwblhau ar-lein (roedd 27% o’r ymatebwyr yn gwneud hynny’n aml), tra bod derbyn gofal clinigol yn cael ei gwblhau ar-lein lleiaf aml (dim ond 8% o bobl oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn aml ar gyfer hyn).
  • Os nad ydym yn cynnwys gweithgareddau’n ymwneud â COVID-19, mae 40% wedi defnyddio’r rhyngrwyd
    yn aml ar gyfer iechyd ers i’r pandemig ddechrau. Mae hwn yn gynnydd o’i gymharu â 25% yn
    2019/2020, cyn y pandemig.
  • Roedd defnyddwyr iau a’r rheiny â chyflyrau hirdymor yn fwy tebygol o ddefnyddio’r rhyngrwyd yn aml ar gyfer eu hiechyd, ond mae patrymau’n amrywio ar draws y gweithgareddau penodol sydd yn cael eu hystyried.
  • Ymysg defnyddwyr y rhyngrwyd, nid oedd unrhyw wahaniaethau cyson mewn defnydd o’r rhyngrwyd yn
    ymwneud ag iechyd yn ôl rhywedd ac amddifadedd ar lefel ardal.
  • Byddai 53% o bobl yn hoffi defnyddio’r rhyngrwyd yn aml i reoli eu hiechyd yn y dyfodol, wedi ei sbarduno’n bennaf gan y grwpiau oedran 30-44 a 45-54 oed; mae’r meysydd pennaf ar gyfer twf posibl ym maes gwneud cais am apwyntiadau neu bresgripsiynau a derbyn gofal clinigol. Nid yw amrywiadau a welwyd rhwng y rheiny â chyflyrau hirdymor neu hebddynt yn amlwg bellach wrth edrych ar ddewisiadau ar gyfer y dyfodol.
  • Roedd pobl yn gweld cyfleustra a bod yn anhysbys fel manteision posibl defnydd aml o’r rhyngrwyd i gynorthwyo iechyd, tra bod ymateb nad yw adnoddau digidol yn bodloni anghenion yn cael ei weld fel anfantais gan ddefnyddwyr anaml.
  • Roedd pryderon ynghylch cywirdeb gwybodaeth a phreifatrwydd a diogeledd data ar-lein yn amlwg, waeth beth oedd amlder y defnydd o’r rhyngrwyd i reoli iechyd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Defnydd o'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli iechyd yng Nghymru - dewisiadau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol

PDF, 898KB

Llawrlwytho PDF - Defnydd o'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol i reoli iechyd yng Nghymru - dewisiadau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol (898 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig