Gwybodaeth Iechyd y Geg
Mae Gwybodaeth Iechyd y Geg yn darparu tystiolaeth a mewnwelediadau i gefnogi gwella iechyd y geg ledled Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi ac yn adrodd ar ystod o ffynonellau data sy’n ymwneud ag iechyd y geg, clefydau’r geg, defnydd o wasanaethau, rhaglenni atal, a chanlyniadau iechyd y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ganser y geg, epidemioleg ddeintyddol, ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), iechyd y geg plant, ac anghydraddoldebau iechyd y geg. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir yn helpu i lywio polisi, strategaethau atal, cynllunio gwasanaethau a gwneud penderfyniadau i gefnogi darparu gwasanaethau deintyddol o ansawdd uchel a gwella canlyniadau iechyd y geg i bobl Cymru.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges i:
Data Epidemioleg Deintyddol
Mae Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru yn monitro iechyd y geg mewn plant a grwpiau dethol o oedolion o’r boblogaeth drwy arolygon rheolaidd. Mae’r rhaglen yn darparu gwybodaeth werthfawr am gyffredinrwydd clefydau deintyddol, anghydraddoldebau iechyd y geg, ac effeithiau ar ansawdd bywyd, gan gefnogi cynllunio gwasanaethau yn y dyfodol a mentrau ataliol.
Arolygon Deintyddol Plant Blwyddyn Ysgol 1
Arolygon deintyddol o Blant ym Mlwyddyn Ysgol Saith
Data e-atgyfeirio
Mae Gwybodaeth Iechyd y Geg yn dadansoddi data ar nifer y plant sy’n cael eu hatgyfeirio o ofal eilaidd ar gyfer rheoli pydredd dannedd.
Data Canser y Geg
Mae Gwybodaeth Iechyd y Geg yn dadansoddi data ar nifer yr oedolion sy’n cael diagnosis o ganser y geg, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddedd canser y geg a chyfraddau marwolaethau a goroesi.