Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Alcohol: ymyriadau i atal a lleihau niwed o alcohol

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth

Cyhoeddwyd ar: 17eg Ionawr 2024

Disgwylir y diweddariad nesaf: ar y gweill

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Mynediad ein map

Cyflwyniad

Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff cyfoes, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y pwnc eang o camddefnyddio alocohol. Mae’r map hwn yn cynnwys tystiolaeth ar ymyriadau cyffredinol, dethol a dynodedig ac mae wedi ei greu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.

Prif bwyntiau

Mae ein cyfres o mapiau tystiolaeth ddigidol wedi’u cynllunio i roi mynediad strwythuredig at gorff o dystiolaeth gyfredol, lefel uchel a chadarn ar ystod o bynciau. Maent yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y ‘pyramid tystiolaeth’ h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd yn gadarn a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Eu nod yw rhoi mynediad hawdd i ymarferwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy a methodolegol gadarn, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.

Mynediad ein map

Gwybodaeth dechnegol

Gwybodaeth am fapiau tystiolaeth

Mae adolygiadau tystiolaeth a chanllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y map hwn wedi’u grwpio yn ôl y boblogaeth y maent yn canolbwyntio arni a’r math o ymyriad. Fe’u harddangosir mewn map gwres rhyngweithiol. Gall rhai adolygiadau ymddangos mewn mwy nag un categori os ydynt yn cwmpasu sawl grŵp neu ymyriad.

Rydym wedi cofnodi’r lleoliadau lle cynhaliwyd ymyriadau (er enghraifft, ysgolion neu leoliadau cymunedol) a’r canlyniadau a fesurwyd. Gallwch ddefnyddio’r hidlwyr i gulhau canlyniadau yn ôl lleoliad neu ganlyniad.

Bydd clicio ar flwch yn y map gwres yn dangos rhestr o adolygiadau neu ganllawiau perthnasol. O’r fan honno, gallwch agor tudalen crynodeb ar gyfer pob un. Mae’r crynodebau hyn yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis amcanion, darganfyddiadau a chasgliadau, wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cyhoeddiad gwreiddiol. Nid ydym yn dehongli nac yn dadansoddi’r canfyddiadau hyn ein hunain. Yn hytrach rydym yn eu cyflwyno i’ch helpu i benderfynu a ddylech archwilio’r ffynhonnell lawn.

Sut mae defnyddio’r map hwn

Mae’r map wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ymchwil yn gyflym sydd eisoes wedi’i dwyn ynghyd mewn ffordd yr ydym yn ei hystyried yn gadarn yn fethodolegol ac felly a allai fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau. Gall hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth ystyried tystiolaeth i lywio penderfyniadau.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol:

Dylech ystyried a yw’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol, fel Cymru.

Bod y chwiliadau a ddefnyddir i greu’r map hwn wedi’u targedu, nid ydynt yn gynhwysfawr. Nid yw’r map yn cynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael.

Dylid defnyddio’r adolygiadau a ddangosir fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth ac nid eu defnyddio’n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach eu cymhwysedd i Gymru.

Geirfa

Mae ymyriadau Cyffredinol yn ymyriadau ataliol sydd yn targedu’r cyhoedd, poblogaethau cyfan neu leoliadau penodol. Mae’n cynnwys   tystiolaeth ar, er enghraifft, argaeledd a dulliau o farchnata alcohol ac ymyriadau mewn lleoliadau addysgol. Gallai’r deunydd hwn fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n gyfrifol am bolisïau, rheolwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio yn y GIG, awdurdodau lleol neu’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol a’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg, gwirfoddol neu gymunedol.

Mae ymyriadau Dethol yn targedu grwpiau neu unigolion yn y boblogaeth sy’n wynebu risg uwch o broblemau alcohol. Gallai’r deunydd   hwn fod o ddiddordeb i’r rhai sy’n gweithio gydag unigolion yr aseswyd bod eu defnydd o alcohol yn beryglus neu’n niweidiol neu sydd â   chyswllt â chyflwr cymdeithasol neu iechyd sy’n cynyddu risg (er enghraifft salwch meddwl, digartrefedd) neu’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau ar gyfer y grwpiau hyn.

Mae ymyriadau Dynodedig yn targedu’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol presennol. Gallai’r deunydd hwn fod o ddiddordeb i ymarferwyr sy’n gweithio gyda’r grŵp hwn neu’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau ar eu cyfer.

Adroddiadau perthnasol

  • Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025

    Crynodeb Gweithredol Tueddiadau lefel poblogaeth Plant a phobl ifanc (iau na 25 oed) Oedolion 25-49 oed Oedolion hŷn, 50 oed a hŷn

    Cyhoeddwyd:

  • Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]

    Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025

  • Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2026

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]

    Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026

  • Asesiad o Anghenion Iechyd Cyffuriau ac Alcohol

    Mae’r Asesiad hwn o Anghenion Iechyd yn archwilio graddfa, patrymau ac effeithiau defnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Mae’n nodi pwy sy’n wynebu’ risg fwyaf, y niwed a brofir, ac […]

    Cyhoeddwyd: 7fed Ebrill 2026

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig