Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025

Crynodeb Gweithredol

Tueddiadau lefel poblogaeth

  • Cafodd mwy na dwywaith cymaint o unigolion eu derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol nag oherwydd eu bod wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn 2024/25, er bod cyfraddau’r ddau wedi parhau i ostwng yn y flwyddyn flaenorol. Gostyngodd cyfanswm y derbyniadau o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol 8.0 y cant a gostyngodd cyfanswm y derbyniadau yn gysylltiedig â
    defnyddio cyffuriau anghyfreithlon 5.4 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Opioidau yw’r grŵp sylweddau sy’n gysylltiedig â’r nifer a’r gyfradd uchaf fesul 100,000 o’r boblogaeth o dderbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon, er bod hyn wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Dros y pum mlynedd diwethaf, mae derbyniadau oherwydd rhesymau seiciatrig wedi gostwng 31.9 y cant o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol a 42.3 y cant o ganlyniad i gyflyrau sy’n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon.
  • Roedd cyfran yr holl gleifion a gafodd eu derbyn oherwydd cyflyrau penodol i alcohol sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 2.9 gwaith yn uwch na’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. O ran defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, roedd y
    gyfran 5.8 gwaith yn uwch.
  • Roedd nifer yr unigolion unigryw wedi’u hasesu mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol yng Nghymru wedi gostwng 2.5 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac mae bellach 16.7 y cant yn is nag yn 2020/21. O’r holl asesiadau, roedd
    46.0 y cant yn gleientiaid yr oedd alcohol yn brif broblem iddynt, roedd 44.2 y cant yn gleientiaid yr oedd cyffuriau yn brif broblem iddynt, ac nid oedd sylwedd wedi’i gofnodi ar gyfer y 9.6 y cant arall.
  • Roedd 538 o farwolaethau penodol i alcohol wedi’u cofrestru yn 2024, sef gostyngiad o 4.3 y cant, yn dilyn y nifer uchaf wedi’i gofnodi yn 2023. Yn 2024, cynyddodd nifer y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau wedi’u cofrestru yn sylweddol i 288 o farwolaethau, sef cynnydd o 13.8 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau wedi’i gofnodi erioed. Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau wedi
    cynyddu’n gynt na marwolaethau eraill sydd o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau yn ystod y blynyddoedd diwetha

Plant a phobl ifanc (iau na 25 oed)

  • Parhaodd nifer y gwaharddiadau o ysgolion yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol yn uchel yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24. Roedd cyfanswm o 936 o’r gwaharddiadau hyn ymhlith plant oedran ysgol, gan barhau’n sefydlog o’r flwyddyn
    academaidd flaenorol.
  • Yn 2024/25, roedd 341 o dderbyniadau yn ymwneud â phobl ifanc iau na 25 oed gyda chyflwr penodol i alcohol, sef cynnydd o 13.0 y cant o’i gymharu â 2023/24. Bu gostyngiad o 10.3 y cant yn nifer y derbyniadau o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon (611 o dderbyniadau) ymhlith y garfan oedran hon.
  • Canabis oedd y sylwedd wedi’i adrodd amlaf ar gyfer asesiadau ymhlith y grŵp oedran hwn (35.1 y cant o asesiadau), ac yna alcohol (28.0 y cant). Mae nifer yr asesiadau ar gyfer cocên a chrac cocên wedi cynyddu 34.1 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
  • Ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau ac sy’n defnyddio rhaglenni nodwyddau a chwistrellau yn rheolaidd yng Nghymru yn y grŵp oedran hwn, roedd y rhan fwyaf wedi nodi eu bod yn defnyddio cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd (89.3 y cant).

Oedolion 25-49 oed

  • Mae derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol ac o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau anghyfreithlon wedi gostwng 9.5 y cant a 3.9 y cant yn y drefn honno o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd opioidau yn cyfrif am fwy o dderbyniadau i’r ysbyty nag unrhyw grŵp sylweddau anghyfreithlon arall o hyd, sef 31.2 y cant o dderbyniadau o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon yn y grŵp oedran hwn.
  • Cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd oedd y grŵp sylweddau wedi’i adrodd amlaf (64.0 y cant) ymhlith unigolion a oedd yn defnyddio rhaglenni nodwyddau a chwistrellau yn rheolaidd, ac yna opioidau (32.6 y cant).
  • Ymhlith y rhai a oedd yn defnyddio gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau, y sylwedd problemus wedi’i adrodd amlaf oedd alcohol (42.3 y cant) ac yna opioidau (20.5 y cant). Mae nifer yr asesiadau ar gyfer cocên a chrac cocên yn parhau i gynyddu
    ac wedi cynyddu 67.8 y cant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
  • Roedd marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ar eu huchaf yn y categori oedran 40-49, gan gyfrif am 33.7 y cant o’r holl farwol

Oedolion hŷn, 50 oed a hŷn

  • Roedd unigolion 50 oed a hŷn yn cyfrif am 67.4 y cant o’r holl rai wedi’u derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol, a 30.0 y cant o’r holl rai wedi’u derbyn i’r ysbyty yn dilyn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn 2025/25. Mae’r cyfrannau hyn wedi parhau’n gymharol sefydlog ers y blynyddoedd diwethaf.
  • Mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol, roedd alcohol yn cyfrif am 71.6 y cant o asesiadau ac opioidau am 12.7 y cant ohonynt. Mae asesiadau ar gyfer alcohol ac opioidau wedi gostwng ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf tra bod asesiadau ar gyfer cocên a chrac cocên wedi mwy na dyblu yn y garfan oedran hon yn ystod y pum mlynedd diwethaf, er bod lefelau’n parhau i fod yn is nag mewn grwpiau oedran eraill.
  • Roedd unigolion sy’n defnyddio rhaglenni nodwyddau a chwistrellau yn rheolaidd yn y garfan oedran hon yn adrodd eu bod yn defnyddio opioidau amlaf (49.1 y cant) ac yna gyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd (45.0 y cant).
  • Y garfan oedran hon oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf (77.1 y cant) o farwolaethau penodol i alcohol yn 2024, yn enwedig dynion 50-69 oed.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cloddio data Cymru - Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Cloddio data Cymru - Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024 i 2025 (3 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig