Asesiad o Anghenion Iechyd Cyffuriau ac Alcohol
Awduron: Helen Erswell, Jennifer Evans, Alaw Thomas-Davies, George Machacha, Nia Osborne, Adelaide Jones, Emma Palmer, Cheryl Richards
Cyhoeddwyd ar: 7fed Ebrill 2026
Mae’r Asesiad hwn o Anghenion Iechyd yn archwilio graddfa, patrymau ac effeithiau defnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Mae’n nodi pwy sy’n wynebu’ risg fwyaf, y niwed a brofir, ac effeithiolrwydd y dulliau a’r systemau presennol. Mae’n ymateb i fylchau mewn strategaeth genedlaethol, canllawiau sydd wedi dyddio, niwed cynyddol, ac anghydraddoldebau parhaus. Nod yr asesiad yw rhoi sylfaen dystiolaeth ar gyfer dull system gyfan, cwrs bywyd sy’n cwmpasu atal, ymyrraeth gynnar, lleihau niwed, triniaeth, adferiad a chymorth i eraill yr effeithir arnynt. Mae’r asesiad yn ystyried plant, pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, ac yn cwmpasu defnyddio alcohol a chyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau wedi’u rhagnodi. Mae’r dulliau’n cynnwys dadansoddiad meintiol, ymgysylltu ansoddol â phobl sydd â phrofiad bywyd, grwpiau ffocws rhanddeiliaid, ac adolygu tystiolaeth lefel uchel ar atal, ymyrryd yn gynnar, anghenion iechyd a lleihau niwed. Mae’r canfyddiadau’n datgelu tirwedd gymhleth ac esblygol, gyda phatrymau clir o bwy yr effeithir arnynt fwyaf, ble mae niwed wedi’i ganoli, a sut mae tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, fel newidiadau o ran y defnydd o gyffuriau, yn llunio angen ar draws y boblogaeth.
Mae marwolaethau yn sgil defnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi aros yn gyson uchel ac maent yn parhau i gynyddu. Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â chyffuriau, mae’n ymddangos bod pobl yn ymgyflwyno’n hwyrach ac yn dioddef niwed mwy difrifol, sy’n awgrymu rhwystrau i gymorth cyn cyrraedd argyfwng. Mae defnyddio mwy nag un cyffur ar yr un pryd yn parhau i fod yn brif ffactor sy’n achosi gorddos angheuol. Mae defnyddio cyffuriau yn dangos tuedd gyffredinol hirdymor ar i lawr, ond mae’r defnydd cynyddol o grac cocên, cetamin, a symbylyddion ymhlith rhai poblogaethau yn bryder cynyddol. Mae defnyddio alcohol yn parhau i fod yn gyffredin gydag oedolion canol oed yn dangos y lefelau uchaf o yfed risg uwch tra bod pobl ifanc yn dangos gostyngiad yn eu defnydd o alcohol. Mae niwed wedi’i gysylltu’n gryf ag anghydraddoldeb ac wedi’i ganoli’n anghymesur mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, pobl sy’n profi digartrefedd, unigolion anabl a niwrowahanol, unigolion LHDTC+, a’r rhai yn y system cyfiawnder troseddol, yn wynebu risg uwch. Mae ymdrechion atal yn gyfyngedig; mae mynediad at driniaeth yn anghyson; mae stigma yn gyffredin; ac nid yw anghenion iechyd meddwl sy’n digwydd ar yr un pryd yn cael eu diwallu’n dda.
Adroddodd rhanddeiliaid am lwybrau tameidiog, cymorth cyfyngedig mewn argyfwng a chymorth y tu allan i oriau, diffyg gwasanaethau ar gyfer defnyddio symbylyddion ac defnyddio mwy nag un cyffur ar yr un pryd, rhwystrau i ofal sylfaenol, cymorth adfer annigonol, a darpariaeth anghyson i deuluoedd ac eraill yr effeithir arnynt. Mae’r cryfderau’n cynnwys sylfeini lleihau niwed cryf a modelau gofal integredig sy’n tyfu. Yn seiliedig ar y dystiolaeth, mae’r asesiad yn nodi cyfres o argymhellion a gynlluniwyd i gryfhau arweinyddiaeth a chreu dull system gyfan, gwella ymdrechion o ran atal ac ymyrraeth gynnar, mynd i’r afael ag anghenion iechyd y rhai sy’n defnyddio sylweddau, lleihau niwed i eraill, gwella ein hymdrechion trwy wella data, ymchwil o ansawdd a gwerthuso cadarn a chynnal ffocws ar leihau niwed.
Yn gyffredinol, mae defnyddio sylweddau yn parhau i fod yn her fawr i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’n achosi niwed sylweddol y gellir ei atal ac yn dyfnhau anghydraddoldebau. Er bod gan Gymru sylfeini cryf o ran lleihau niwed, mae’r system bresennol yn dameidiog ac yn adweithiol. Bydd rhoi’r argymhellion yn yr asesiad hwn ar waith yn galluogi dull mwy cydlynol, teg a thosturiol o amddiffyn plant, cefnogi teuluoedd, gwella canlyniadau iechyd a lleihau marwolaethau y gellir eu hosgoi ledled Cymru.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o Anghenion Iechyd Cyffuriau ac Alcohol
PDF, 22MB
Llawrlwytho PDF - Iechyd Cyhoeddus Cymru Asesiad o Anghenion Iechyd Cyffuriau ac Alcohol (22 MB)
Llawrlwytho PDF