Beth yw effeithiolrwydd rheoli iechyd y boblogaeth o ran gwella darpariaeth iechyd, canlyniadau iechyd, a lleihau anghydraddoldebau? Adolygiad cyflym
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Salina Khatoon, Alesha Wale, Claire Morgan, Helen Morgan, Hannah Shaw, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Libby Humphris, Adrian Edwards, Deborah Edwards, Ruth Lewis
Cyhoeddwyd ar: 5ed Mehefin 2026
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Cynhaliwyd yr adolygiad cyflym hwn gan y Gwasanaeth Tystiolaeth mewn cydweithrediad â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Nod yr adolygiad cyflym oedd nodi effeithiolrwydd rheoli iechyd y boblogaeth wrth wella darpariaeth gofal iechyd, canlyniadau iechyd, a lleihau anghydraddoldebau.
Adroddiad llawn (saesneg yn unig)Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd chwiliadau ym mis Medi 2025, ac roeddent yn cynnwys astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2018 a 2025.
Beth wnaethom ei ganfod
- Fe wnaethon ni nodi tair astudiaeth yn gwerthuso effeithiolrwydd dull rheoli iechyd y boblogaeth yn gyffredinol, a hefyd bedair astudiaeth yn asesu effeithiolrwydd ymyriadau penodol a gynlluniwyd gan ddefnyddio dull rheoli iechyd y boblogaeth.
- At ei gilydd, datgelodd y dystiolaeth ar gyfer astudiaethau a asesodd effeithiolrwydd y dulliau rheoli iechyd y boblogaeth ddarlun cymysg; roedd hyn, yn ôl pob tebyg, oherwydd heterogenedd amcanion yr astudiaeth a’r poblogaethau targed.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall ymyriadau penodol a gynllunnir gan ddefnyddio dull rheoli iechyd y boblogaeth gyflawni’r canlynolarwain at gyflenwi rhagor o wasanaethau, defnyddio llai o wasanaethau gofal iechyd, gwell canlyniadau iechyd, a chawsant eu derbyn yn dda gan gyfranogwyr yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd gan yr ymyriadau penodol nodau amrywiol ar gyfer gwahanol grwpiau poblogaeth.
- Fodd bynnag, adroddwyd ar holl ganfyddiadau’r astudiaethau ansawdd isel. Mae hyn yn golygu na allwn fod yn hyderus o ran y canfyddiadau ar y cyfan, ac mae’n ategu bod angen rhagor o dystiolaeth arnom.
Beth mae hyn yn ei olygu
- Mae rheoli iechyd y boblogaeth yn ddull eang y gellir ei weithredu mewn amrywiol ffyrdd ac ar wahanol lefelau o’r system gofal iechyd, yn dibynnu ar anghenion a blaenoriaethau’r boblogaeth. Fodd bynnag, nid yw effeithiau gwahanol gydrannau rheoli iechyd y boblogaeth wedi’u dogfennu’n dda yn y llenyddiaeth. Mae hyn yn ei gwneud hi’n heriol pennu effeithiolrwydd y dull hwn yn gyffredinol.
- Roedd diffyg tystiolaeth o ansawdd uchel, yn enwedig tystiolaeth o’r DU.
- Roedd astudiaethau wedi’u hanelu at grwpiau poblogaeth penodol, ac fe’u cynhaliwyd yn bennaf yn UDA, a allai effeithio ar drosglwyddadwyedd y canfyddiadau oherwydd bod gwahaniaethau o ran (i) y systemau gofal iechyd, (ii) demograffeg cleifion, ac (iii) argaeledd y gwasanaethau.
- Dylai gwerthusiadau economaidd ystyried newidiadau o ran y defnydd o adnoddau gofal iechyd a’r costau cysylltiedig o roi rheoli iechyd y boblogaeth ar waith ochr yn ochr â mesurau effeithiolrwydd.
- Mae angen cynnal ymchwil bellach er mwyn dod i gasgliadau pendant.
Gwybodaeth dechnegol
Defnyddiwyd methodoleg adolygu systematig gryno i gynnal yr adolygiad cyflym hwn er mwyn crynhoi’r dystiolaeth sydd ar gael yn brydlon wrth barhau i dalu sylw i ragfarn. Fe wnaethon ni chwilio am astudiaethau sylfaenol yn edrych ar reoli iechyd y boblogaeth.
Rhestr termau
Mae rheoli iechyd y boblogaeth yn ddull sy’n anelu at wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy gynllunio a darparu gofal rhagweithiol sy’n seiliedig ar ddata. Mae’n defnyddio setiau data cysylltiedig i nodi poblogaethau ‘mewn perygl’ i’w targedu gydag ymyriadau wedi’u teilwra sy’n darparu gofal rhagweithiol a chymesur.
Rhanddeiliaid
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymru, DU
Lawrlwythiadau adroddiadau
Crynodeb gweitheredol: Beth yw effeithiolrwydd rheoli iechyd y boblogaeth o ran gwella darpariaeth iechyd canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau? Adolygiad cyflym
PDF, 189KB
Llawrlwytho PDF - Crynodeb gweitheredol: Beth yw effeithiolrwydd rheoli iechyd y boblogaeth o ran gwella darpariaeth iechyd canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau? Adolygiad cyflym (189 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Technoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd – Adolygiad cwmpasu
Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun strategol i ddarparu dull gweithredu system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach (Llywodraeth Cymru 2018). Mae iechyd a […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2020
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
-
Cyffredinolrwydd cymesur i leihau anghydraddoldebau iechyd: cwmpas ystwyth o’r llenyddiaeth eilaidd
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her fawr, gyda phobl sydd â llai o adnoddau […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2023
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2026
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]
Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 17, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 9, 2022