Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2026
Oherwydd problemau argaeledd data, ni allwn ddiweddaru ein hadroddiad patholeg ym mis Mehefin 2026 fel y dywedwyd yn flaenorol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a byddem yn croesawu unrhyw adborth am sut mae hyn wedi effeithio ar eich gwaith.
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen sylfaenol (ac eithrio NMSC) yng Nghymru ar gyfer y safleoedd canser: pob canser, y prostad, y fron, yr ysgyfaint, y colon a’r rhefr a’r ofari.
Prif bwyntiau
Mae archwilio samplau patholeg canser misol yn caniatáu amcangyfrifon mwy amserol o fynychder canser yng Nghymru. Mae’r ystadegau arbrofol newydd hyn yn rhoi cipolwg cyflym ar effaith pandemig COVID-19 ar achosion newydd o ganserau a gadarnhawyd gan batholeg, sut roedd yr effaith hon yn wahanol rhwng y mathau o ganser a ddadansoddwyd, a gwell dealltwriaeth o sut mae diagnosau canser wedi adfer ar ôl y pandemig.
Cofrestriadau canser yw’r ffynhonnell ddata fwyaf awdurdodol o hyd ar gyfer mynychder canser. Fodd bynnag, mae’r amser a gymerir i brosesu a dilysu data gan swyddogion cofrestru canser arbenigol yn golygu bod oedi o 18 mis cyn cyhoeddi yn arferol. Mae cyfran fawr o ddiagnosau canser yn cael eu cofrestru gan ddefnyddio cronfeydd data patholeg, felly gall cyfrif samplau patholeg gynnig amcangyfrif mwy amserol o fynychder canser.
Mae’n bwysig nodi nad yw pob achos newydd o ganser yn cael ei wirio trwy batholeg a gall dibynnu ar wybodaeth patholeg yn unig arwain at danamcangyfrif nifer gwirioneddol yr achosion o ganser o gymharu â data cofrestru canser. At hynny, gall y gwahanol ddulliau o ganfod canser ddibynnu ar y math o ganser, felly gall data patholeg gynnig amcangyfrifon mwy cymaradwy i ddata cofrestru ar gyfer rhai mathau o ganser o gymharu â safleoedd eraill. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli data patholeg.
Tablau data
Gwybodaeth dechnegol
Adroddiadau perthnasol
-
Marwolaethau canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: I’w gadarnhau (2027) Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2025 ac mae […]
Cyhoeddwyd: 15fed Gorffennaf 2026
-
Pam mae achosion o ganser y croen nad yw’n felanoma ar gynnydd yng Nghmru: adolygiad cwmpasu ystwyth o’r llenyddiaeth
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Yn ystod […]
Cyhoeddwyd: 1af Gorffennaf 2024
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Rhyddhad cyfredol: 17eg Mehefin 2026Rhyddhad nesaf: 22ain Medi 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Mae’r tabl canlynol […]
Cyhoeddwyd: 17eg Mehefin 2026
-
Canser yng Nghymru – tueddiadau ac amcanestyniadau
Diben Mae’r erthygl hon yn ymwneud ag effaith canser yng Nghymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae’n cynnwys: Penawdau Canser yng Nghymru – effaith a thueddiadau Pa effaith […]
Cyhoeddwyd: 2il Medi 2025
-
Adolygiad cyflym yn archwilio effeithiolrwydd deallusrwydd artiffisial ar gyfer diagnosis canser
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer […]
Cyhoeddwyd: 1af Tachwedd 2023
-
Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]
Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019
Setiau data cysylltiedig
-
Data marwolaethau canser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 15, 2026
-
Canser yng Nghymru – tueddiadau ac amcanestyniadau: Tablau data
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Data anghydraddoldebau mewn cyfraddau canser yng Nghymru yn ôl nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, 2011-2020
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 5, 2025
-
Data mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 12, 2018
-
Data mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 30, 2024