Neidio i'r cynnwys

Atal hunanladdiad a gwyliadwriaeth

Atal hunanladdiad

Mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn parhau i fod yn faterion iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru, sy’n gofyn am ddull cydgysylltiedig, seiliedig ar dystiolaeth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid ehangach. Mae gwaith cenedlaethol yn y maes hwn yn canolbwyntio ar atal, adnabod yn gynnar, darparu cymorth amserol, a dysgu o ddata a phrofiad byw er mwyn lleihau risg a gwella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau cenedlaethol, rhaglenni gwaith a gweithgarwch gwella systemau ar gael ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Gwyliadwriaeth hunanladdiad tybiedig

Mae’r Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real wedi’i sefydlu ar gyfer Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill 2022.

Un o’r uchelgeisiau yn y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed ‘Beth am siarad â fi’ yng Nghymru (2015-2022) oedd sefydlu systemau gwyliadwriaeth i wella ansawdd data a gwybodaeth i lywio atal. Mae un o’r systemau hyn yn ymwneud â chipio data (tybiedig) mewn amser real, drwy ddulliau cipio data sy’n seiliedig ar yr Heddlu.

Amdanom ni

Mae Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS) yn system arolygu lefel y boblogaeth sydd wedi’i datblygu drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio rhwng arweinwyr polisi grwpiau iechyd meddwl ac agored i niwed yn Llywodraeth Cymru; Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru; pedwar llu Heddlu Cymru; Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio sydd wedi’i lleoli yng Ngweithrediaeth GIG Cymru; Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithredu fel gwarcheidwaid cenedlaethol y data ar hunanladdiadau tybiedig.  Sefydlwyd y rhaglen gan ddefnyddio systemau a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

Mae gwybodaeth am niferoedd, cyfraddau, a thueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru wedi bod ar gael er 1981 ac mae’n parhau i fod ar gael trwy adroddiadau blynyddol, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data’r SYG yn ymwneud â marwolaethau drwy hunanladdiad a gadarnhawyd gan grwner cofrestredig yn dilyn cwestau ym mhob blwyddyn, ond mae data’r RTSSS yn ymwneud â hunanladdiadau tybiedig.

Mae’r RTSSS yn ei chamau cynnar o weithredu o hyd, ac mae heriau cynnar yn ymwneud â chasglu, trosglwyddo, glanhau, dehongli ac adrodd data yn brydlon.

Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am bobl sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru, a phobl sy’n byw yng Nghymru sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig y tu allan i Gymru.  Mae hyn er mwyn i ni allu monitro marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a chreu darlun o batrymau a thueddiadau marwolaethau, er mwyn canolbwyntio’n well ar yr ymdrechion i atal hunanladdiadau.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy h.y. enw, cyfeiriad, dyddiad geni’r sawl sydd wedi marw, a gwybodaeth am ei amgylchiadau.  Y rheswm pam mae angen gwybodaeth adnabyddadwy arnom yw er mwyn cysylltu â ffynonellau gwybodaeth eraill i wella ansawdd yr wybodaeth.

Mae gwybodaeth yn cael ei hanfon at Iechyd Cyhoeddus Cymru gan bedwar llu Heddlu Cymru.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol, unedau gofal critigol, carchardai, systemau gwyliadwriaeth mewn gwledydd eraill, a’r cyfryngau.  Efallai y byddwn wedyn yn casglu gwybodaeth bellach gan wasanaethau iechyd, carchardai a chrwneriaid.  Rydym yn gwirio ein gwybodaeth yn erbyn systemau eraill y cesglir gwybodaeth ar eu cyfer: Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Uned Gyflawni GIG Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.  Mae’r wybodaeth yn cael ei rhoi ar gronfa ddata ddiogel sy’n hygyrch i aelodau’r tîm RTSSS yn unig.

Y sail gyfreithiol ar gyfer gweithgareddau’r RTSSS yw:

  • Paragraff 3(b) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, sef “datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath”
  • Paragraff 3(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 sy’n datgan fel un o’i swyddogaethau: “gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a’u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid” 
  • O dan ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried bod prosesu data personol yn yr RTSSS er budd pennaf y cyhoedd.
  • Cymeradwyaeth Adran 251 (Deddf y GIG 2006) ar gyfer prosesu gwybodaeth gyfrinachol am glaf heb ganiatâd.
Trefniadau llywodraethu

Y tîm RTSSS Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen. Mae’n atebol i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy’r Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atebol i Lywodraeth Cymru.  Mae angen cymeradwyaeth derfynol ar gyfer unrhyw adroddiadau a gaiff eu cyhoeddi gan y Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil.

Bydd yr RTSSS hefyd yn adrodd i’r Grŵp Gweithredu RTSSS.

Nod ac amcanion

Nod yr RTSSS yw gweithredu fel ystorfa genedlaethol ganolog ar gyfer achosion tybiedig o hunanladdiad yng Nghymru a chynhyrchu’r wybodaeth i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.  Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro effaith y pandemig yn barhaus ar achosion tybiedig o farwolaethau hunanladdiad. 

Amcanion yr RTSSS yw:

  • canfod a choladu data ar achosion tybiedig o farwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru a marwolaethau tybiedig o hunanladdiad ymhlith pobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru (a all farw mewn mannau eraill)
  • goruchwylio achosion tybiedig o hunanladdiadau gan gynnwys nodi a disgrifio clystyrau hunanladdiad sy’n dod i’r amlwg er mwyn hysbysu grwpiau ymateb lleol
  • ymgymryd â gwyliadwriaeth ar achosion tybiedig o hunanladdiadau i nodi patrymau a thueddiadau marwolaethau tybiedig o hunanladdiad er mwyn llywio polisi ac ymarfer
  • rhannu’r canfyddiadau drwy ddelweddu data hygyrch, er mwyn llywio camau gweithredu gan wahanol grwpiau a fforymau
  • cyfrannu at yr agenda atal hunanladdiad
  • cyfrannu at ymchwil i atal hunanladdiad

Rhagor o wybodaeth am atal hunanladdiad a chefnogaeth bellach

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real.

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data