Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022 i 2023
Awduron:
Prif bwyntiau
- Mae casglu a rhannu data trwy broses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig mewn Amser Real yn caniatáu cymryd camau prydlon i atal achosion pellach o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig, trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol i ddefnyddwyr ar batrymau cenedlaethol a rhanbarthol.
- Dyma’r flwyddyn gyntaf o gasglu data a bydd y broses ddadansoddi yn datblygu wrth i ddata pellach gael eu casglu. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r data oherwydd prinder y gyfres amser a’r niferoedd bach mewn rhai categorïau.
- Caiff marwolaethau yn sgil achos tybiedig o hunanladdiad eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn cwest crwner. Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.
- Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, bu farw 356 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig naill yng Nghymru neu du hwnt, gan roi cyfradd o 12.6 fesul 100,000 o bobl.
- Dynion oedd 78% o farwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed-benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (29.4 fesul 100,000), ac yna dynion rhwng 25 a 34 oed (29.2 fesul 100,000).
- Safbwynt ardaloedd preswyl penodol, y Canolbarth a’r Gorllewin oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (15.7 fesul 100,000), a oedd yn ystadegol wahanol iawn i’r gyfradd Cymru gyfan a chyfradd y Gogledd a’r De-ddwyrain.
- Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r mwyaf difreintiedig nesaf (13.9 fesul 100,000 a 13.7 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na’r gyfradd ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (9.5 fesul 100,000).
- Y gyfradd hunanladdiad ymhlith pobl ddi-waith oedd 114.1 fesul 100,000, sydd o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall.
- Roedd 74% o’r marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl a oedd yn hysbys i’r heddlu yn flaenorol.
Cefndir
Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy’n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â marwolaethau preswylwyr Cymru sy’n digwydd y tu allan i Gymru.
Nod RTSSS yw creu storfa genedlaethol ganolog o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru a chynhyrchu’r wybodaeth angenrheidiol i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.
Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i’r RTSSS cyn cwest crwner.
Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.
Mae data ar farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig a adroddir gan RTSSS yn wahanol i ddata hunanladdiad fel yr adroddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Ymhlith yr achosion o hunanladdiadau a adroddir gan y ONS mae marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yn dilyn cwest lle mae crwner wedi penderfynu:
- casgliad o hunanladdiad
- casgliad naratif (lle gellir cofnodi’r farwolaeth fel hunan-niweidio bwriadol neu anaf neu
wenwyno o fwriad amhendant, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y crwner) - casgliad agored (lle gellir codio’r farwolaeth fel anaf neu wenwyno bwriadol amhenodol yn
seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y crwner).
(Cyfraddau hunanladdiad UK QMI. 2019, ONS)
Ystadegau hunanladdiad a gyhoeddir gan yr ONS yw’r ystadegau swyddogol ar hunanladdiad a dylid eu defnyddio at ddibenion cynllunio strategol a chymharu. Cyhoeddwyd ystadegau’r ONS ar farwolaethau a gofrestrwyd yn 2022 ar 19 Rhagfyr 2023.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022-23
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022-23 (1 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023 i 2024
Prif Bwyntiau Cefndir Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy’n digwydd yng […]
Cyhoeddwyd:
-
Ymyriadau i leihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Awst 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]
Cyhoeddwyd: 15fed Mai 2024
-
Marwolaethau yn ol Hunanladdiad Amheus 2024 i 2025
Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Pwrpas y RTSSS yw gweithredu fel cronfa ddata genedlaethol ganolog ar farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad amheus yng Nghymru […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
Setiau data cysylltiedig
-
Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig Lawrlwytho data 2023 i 2024
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig Lawrlwytho data 2022 i 2023
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Marwolaethau oherwydd data hunanladdiad amheuwyddol 2024 i 2025
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025