Neidio i'r cynnwys
Data

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig Lawrlwytho data 2023 i 2024

Manylion:

Crynodeb:

Marwolaethau a adroddir yn yr adroddiadau gwyliadwriaeth yw'r rhai y penderfynir eu bod yn hunanladdiadau tybiedig gan yr Heddlu. Adroddir ar farwolaeth oherwydd hunanladdiad tybiedig bron ar unwaith i'r RTSSS, ac felly nid ydynt wedi bod i gwest crwner. O ganlyniad, rhagwelir y bydd nifer y marwolaethau yr adroddir amdanynt yma yn uwch na nifer yr hunanladdiadau, fel y pennir gan Grwner. Mae hyn oherwydd bod ymchwiliad Crwner yn drylwyr ac yn cael mwy o amser i bennu achos ac amgylchiadau'r farwolaeth. Mae'n bosib i hunanladdiad tybiedig gael achos marwolaeth gwahanol yn dilyn cwest Crwner. Mae data ar farwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a adroddir gan RTSSS yn wahanol i ddata hunanladdiad a adroddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae hunanladdiadau a adroddir gan ONS yn cynnwys marwolaethau a gofrestrir yn dilyn cwest lle mae crwner wedi penderfynu: - penderfyniad o hunanladdiad - penderfyniad naratif - penderfyniad agored Mae'r dadansoddiadau a gyflwynir yn y llyfr gwaith hwn yn dangos y 359 o farwolaethau yn 2022/23 a 350 o farwolaethau yn 2023/24 oherwydd amheuaeth o hunanladdiad tybiedig ymhlith trigolion Cymru yn unig.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023-24 Lawrlwytho data

Excel, 66KB

Llawrlwytho Excel - Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023-24 Lawrlwytho data (66 KB)

Llawrlwytho Excel

Adroddiadau perthnasol

  • Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023 i 2024

    Prif Bwyntiau Cefndir Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy’n digwydd yng […]

    Cyhoeddwyd: