Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023 i 2024

Prif Bwyntiau

  1. Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, bu farw 350 o breswylwyr Cymru yn sgil hunanladdiad tybiedig naill ai yng Nghymru neu du hwnt, gan roi cyfradd o 12.4 fesul 100,000 o bobl. Y gyfradd yn 2022/23 oedd 12.7 fesul 100,000.
  2. Dynion oedd 76% o farwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig. Roedd y gyfradd oed benodol ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35 a 44 oed (35.6 fesul 100,000).
  3. O safbwynt ardaloedd preswyl penodol, Gogledd Cymru oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig (14.1 fesul 100,000), ond nid oedd yn ystadegol wahanol mewn ffordd arwyddocaol i’r gyfradd Cymru gyfan.
  4. Roedd cyfraddau marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (15.8 fesul 100,000) yn arwyddocaol uwch yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan, ac roedd cyfradd y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith preswylwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (8.6 fesul 100,000) yn arwyddocaol is yn ystadegol na chyfradd Cymru gyfan.
  5. Y gyfradd marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig ymhlith pobl yr adroddwyd eu bod yn ddi-waith oedd 126.7 fesul 100,000, sydd o leiaf 12 gwaith yn uwch nag mewn unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall.
  6. Adroddwyd bod gan 63% o bobl gyflwr iechyd meddwl, roedd 29% yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, ac roedd gan 53% hanes o hunan-niweidio blaenorol.
  7. Roedd 65% o’r marwolaethau yn sgil hunanladdiad ymhlith pobl a oedd yn hysbys i’r heddlu yn flaenorol.
  8. Mae casglu a rhannu data trwy Oruchwyliaeth Hunanladdiad Amser Real yn caniatáu cymryd camau i atal marwolaethau yn y dyfodol drwy hunanladdiad a amheuir mewn modd prydlon, trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol i ddefnyddwyr ar batrymau cenedlaethol a
    rhanbarthol.
  9. Dyma’r ail flwyddyn o gasglu data. Gwnaed rhai diwygiadau yn ymwneud â dadansoddi ers y flwyddyn gyntaf (gweler Gwybodaeth Dechnegol) a bydd y broses ddadansoddi’n datblygu wrth i ddata pellach gael eu casglu. Oherwydd niferoedd bach a phrinder data cyfres amser, mae cyfyngiadau i set ddata’r RTSSS. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu drwy gydol yr adroddiad hwn.
  10. Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn cwêst Crwner. Rhagwelir y gallai nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.

Cefndir

Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy’n digwydd yng Nghymru, yn ogystal â marwolaethau preswylwyr Cymru sy’n digwydd y tu allan i Gymru.

Nod RTSSS yw creu storfa genedlaethol ganolog o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yng Nghymru ac ymhlith preswylwyr Cymru a chynhyrchu’r wybodaeth angenrheidiol i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.

Mae marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig yn cael eu hadrodd i’r RTSSS cyn cwest Crwner.

Rhagwelir y gallai’r rhain fod yn uwch na nifer yr hunanladdiadau a bennir gan Grwner, oherwydd gall ymchwiliad a chwest Crwner ddod i’r casgliad mai rheswm gwahanol a achosodd y farwolaeth mewn rhai achosion o farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig.

Mae’r data a gesglir ar hunanladdiadau tybiedig yn wahanol i ddata hunanladdiad fel yr adroddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Ymhlith yr achosion o hunanladdiadau a adroddir gan yr ONS mae marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yn dilyn cwest lle mae Crwner wedi penderfynu:

  • casgliad o hunanladdiad
  • casgliad naratif (lle gellir cofnodi’r farwolaeth fel hunan-niweidio bwriadol neu anaf neu wenwyno o fwriad amhendant, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y Crwner)
  • casgliad agored (lle gellir codio’r farwolaeth fel anaf neu wenwyno bwriadol amhenodol yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gan y Crwner).

(Cyfraddau hunanladdiad UK QMI 2019, ONS)

Ystadegau hunanladdiad a gyhoeddir gan yr ONS yw’r ystadegau swyddogol ar hunanladdiad a dylid eu defnyddio at ddibenion cynllunio strategol a chymharu. Cyhoeddwyd ystadegau hunanladdiad yr ONS ar farwolaethau a gofrestrwyd yn 2023 ar 29 Awst 2024.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023-24

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Blynyddol - Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2023-24 (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

  • Marwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig 2022 i 2023

    Prif bwyntiau Cefndir Sefydlwyd proses Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real (RTSSS) Cymru ar 1 Ebrill 2022. Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am farwolaethau yn sgil hunanladdiad tybiedig sy’n digwydd yng […]

    Cyhoeddwyd:

  • Ymyriadau i leihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed: map dystiolaeth

    Disgwylir y diweddariad nesaf: Awst 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]

    Cyhoeddwyd: 15fed Mai 2024

  • Marwolaethau yn ol Hunanladdiad Amheus 2024 i 2025

    Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Pwrpas y RTSSS yw gweithredu fel cronfa ddata genedlaethol ganolog ar farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad amheus yng Nghymru […]

    Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025

Yn ôl i'r brig