Neidio i'r cynnwys

Feirws syncytiol anadlol (RSV)

Mae RSV yn feirws cyffredin sydd fel arfer yn lledaenu yn yr hydref a’r gaeaf. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi cael RSV pan oedden nhw’n blant. Fodd bynnag, gallwch ei gael eto.

I’r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn Weithiau, efallai y bydd angen gofal ysbyty ar bobl sy’n mynd yn sâl oherwydd haint RSV. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.  

Sut mae RSV yn lledaenu? 

Mae RSV yn lledaenu drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi’u heintio. Pan fydd pobl sydd wedi’u heintio yn pesychu neu’n tisian, maen nhw’n rhyddhau defnynnau bychan bach sy’n cynnwys y firws i’r awyr. Gall yr haint gael ei ledaenu wrth i bobl gyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau sydd â’r firws arnynt hefyd. 

Er mwyn helpu i atal RSV a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch: 

  1. Cam 1:Daliwch e

    Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi’n tisian neu’n peswch.

  2. Cam 2:Biniwch e

    Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.

  3. Cam 3:Lladdwch e

    Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.

    Cadw eich amgylchedd (er enghraifft, arwynebau caled) yn lân.

Pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael RSV?

Mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn.

Mae pobl eraill mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol oherwydd RSV. Mae hyn yn cynnwys: 

  • babanod sy’n cael eu geni’n gynnar   
  • babanod â chyflyrau iechyd penodol, fel problemau gyda’r galon neu’r ysgyfaint  
  • pobl sydd â chlefyd difrifol yr ysgyfaint, a   
  • phobl sydd â system imiwnedd wan.  

Beth yw symptomau haint RSV?

Mae haint RSV yn achosi symptomau tebyg i annwyd. Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • peswch  
  • trwyn yn rhedeg neu wedi blocio  
  • tisian, a  
  • blinder.  

Mewn rhai achosion, gall RSV hefyd achosi brest tynn, diffyg anadl neu dwymyn.  

Mewn babanod, gall symptomau ychwanegol gynnwys:

  • anadlu cyflym neu swnllyd   
  • bod yn ofidus neu’n anodd eu cysuro, ac  
  • anhawster bwydo.   

Gall RSV achosi heintiau’r ysgyfaint fel:   

  • niwmonia (safle allanol) (haint yr ysgyfaint), a   
  • bronciolitis (safle allanol).
  • RSV yw achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn babanod ifanc. Mae bronciolitis yn haint ar yr ysgyfaint sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu a bwydo. Mae’n effeithio ar fabanod a phlant dan ddwy oed ac fel arfer gellir ei drin gartref. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall fod yn ddifrifol, ac efallai y bydd angen gofal dwys ar blant. Gall weithiau arwain at farwolaeth.  

Gallai RSV hefyd achosi cyflyrau eraill mewn plant ifanc, er enghraifft:  

Dysgwch mwy

Gweler yr adran ‘Rhagor o wybodaeth’ isod i ddysgu mwy am RSV a’r brechlyn RSV.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 (safle allanol) neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adroddiadau

Data