Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau yn ystod beichiogrwydd  - I’ch amddiffyn chi a'ch babi 

Cefndir

Mae brechu’n achub bywydau. Byddwch yn cael cynnig brechlynnau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o’ch amddiffyn chi a’ch babi rhag salwch difrifol. 

Diogelu chi a’ch babi 

Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o allu brwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a’ch babi.  

Gall brechu helpu i atal clefydau neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.   

Pa frechlynnau sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd? 

Yng Nghymru, cynigir tri brechiad yn ystod beichiogrwydd.

Brechlynnau Pryd i gael y brechlyn  
Pertwsis (y pas) Yn cael ei gynnig o 16 wythnos. 

Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. 
Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) Yn cael ei gynnig o 28 wythnos.  

Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond efallai y bydd yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.   
Y ffliw Yn cael ei gynnig yn ystod tymor y ffliw, sydd fel arfer yn para o fis Medi i fis Mawrth bob blwyddyn. Argymhellir brechu rhag y ffliw ar unrhyw gam o’ch beichiogrwydd.   

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.   

Bydd rhai menywod beichiog, sy’n cael eu hystyried fel rhai sydd â system imiwnedd wan, hefyd yn gymwys i gael brechiad COVID-19.

Mae’n bosibl y bydd brechlynnau eraill yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth, gan gynnwys:  

Cyn beichiogrwydd 

Os ydych chi’n bwriadu beichiogi, gall gwirio statws eich brechiadau eich helpu i’ch amddiffyn chi a’ch babi. 

Mae’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Brechlyn byw yw’r MMR ac felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe’i hargymhellir ar gyfer menywod nad ydynt wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn naill ai cyn neu ar ôl beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi neu ar ôl i’ch babi gael ei eni.  

Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch statws eich brechiad MMR gyda’ch bydwraig neu eich practis meddygon teulu. Ewch i dudalen y brechlyn MMR i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR.  

Gwybodaeth:

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau yn ystod beichiogrwydd, siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu nyrs y practis. I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechlynnau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu siaradwch â’ch bydwraig.  

Cwestiynau Cyffredin

Pam mae brechu’n bwysig i fenywod beichiog?

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi a’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. 

Cyn dod yn feichiog, gwiriwch eich bod yn gyfredol â’ch brechiadau i amddiffyn rhag clefydau a all achosi salwch ynoch chi neu’ch babi heb ei eni. 

A yw’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Ydyn, mae’r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. 

Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir iddynt gael eu defnyddio. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch. 

A oes gan y brechlynnau hyn sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio trwy sbarduno ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac ni fydd pawb yn eu cael. 

Y sgil-effaith fwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgil-effeithiau eraill yn cynnwys: 

  • twymyn 
  • teimlo’n flinedig 
  • poenau cyffredinol 
  • symptomau tebyg i annwyd neu’r ffliw 
  • y fraich wedi chwyddo lle cawsoch y brechiad ynddi 
  • diffyg archwaeth, a 
  • chur pen/pen tost 

Mae sgil-effeithiau difrifol yn anghyffredin iawn. 

Mae’r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n bryderus, ffoniwch GIG Cymru 111. Os cewch gyngor gan feddyg neu fydwraig, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau fel y gallant eich asesu’n iawn. 

Gallwch hefyd roi gwybod am sgil-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho’r ap Yellow Card, neu ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae’n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. Bydd y GIG yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda’ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy am y brechlynnau a sut y gallant helpu i’ch amddiffyn chi a’ch babi. 

Os byddwch yn sâl pan fydd eich apwyntiad i fod, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlynnau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.

Ydy’r brechlynnau’n ddiogel os ydw i’n bwydo ar y fron?

Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys iawn, a gellir rhoi’r holl frechlynnau hyn yn ddiogel i fenywod sy’n bwydo ar y fron. Nid oes angen i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eich brechlyn, a gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer wedyn. 

A allaf i ddal i gael y pas, RSV neu’r ffliw ar ôl i mi gael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas, RSV a’r ffliw. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, ewch i: 

Ar ôl i’ch babi gael ei eni 

I gael gwybodaeth am frechu o 0 i 5 oed, ewch i’r dudalen Cyn-ysgol.

Adnoddau eraill 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Awst 2026