Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 6 Mesur effaith
Nod cyffredinol y strategaeth hon yw cael effaith amlwg a buddiol ar iechyd poblogaethau yng Nghymru, trwy arwain a hwyluso gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau.
Trwy fod â chydberchnogaeth ar y strategaeth hon a thrwy fuddsoddi yn ein staff, byddwn yn datblygu’n arweinydd system ar gyfer ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau.
Byddwn yn gweithio i:
- nodi’r blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau,
- dylanwadu ar yr agenda ymchwil ym maes iechyd poblogaethau,
- ac arwain portffolio credadwy o waith ymchwil a gwerthuso er mwyn cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth i wella iechyd poblogaethau a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.
Mae’n hanfodol creu a chryfhau gwaith ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad os ydym am ymateb i’r heriau cymhleth a gwneud yn fawr o gyfleoedd i hybu iechyd poblogaethau dros y degawd nesaf.
Byddwn yn defnyddio dangosyddion deilliannau craidd i fesur i ba raddau y mae’r strategaeth hon wedi’i gweithredu yn llwyddiannus, er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil a gwerthuso’n cael ei gyflawni a’i ddefnyddio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gan y system iechyd cyhoeddus ehangach i ddylanwadu ar ymarfer a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Dangosyddion deilliannau mewnol:
1. Cynnydd mewn gweithgarwch ymchwil a gwerthuso
Cynnydd blynyddol cyfartalog yn nifer y rhaglenni gwerthuso a’r ceisiadau am grantiau ymchwil a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mewn cydweithrediad â phartneriaid.
2. Cynhyrchu incwm o ymchwil
Cynnydd blynyddol cyfartalog mewn incwm o ymchwil ar gyfer astudiaethau anfasnachol a masnachol er mwyn hwyluso’r gwaith o greu capasiti.
3. Cyhoeddiadau academaidd
Nifer y staff sy’n cyhoeddi eu papurau academaidd bob blwyddyn (fel cydawdur ac awdur arweiniol, sy’n adlewyrchu capasiti o ran ymchwil).
4. Prosesau cadarn ar gyfer llywodraethu ymchwil er mwyn rheoli a chefnogi’r broses o sefydlu a chyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso
Dylai fod gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru y seilwaith angenrheidiol i hybu datblygiad ymchwilwyr, trefniadau llywodraethu ymchwil a’r gwaith sy’n gysylltiedig â sefydlu, cyflawni a sicrhau ansawdd astudiaethau.
Dangosyddion deilliannau allanol:
1. Arolwg blynyddol o randdeiliaid Iechyd Cyhoeddus Cymru
Proses fonitro flynyddol sy’n ymdrin ag:
- Ymwybyddiaeth rhanddeiliaid o waith ymchwil a gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Perthnasedd hwnnw i’w maes gwaith nhw.
- A ydynt yn teimlo bod y gwaith ymchwil a gwerthuso wedi’i gynhyrchu mewn fformat sy’n golygu bod modd ei ddefnyddio yn eu sefydliadau nhw.
- Sut y gallai gael ei ddefnyddio/y mae wedi’i ddefnyddio.
2. Arolwg wedi’i dargedu o’r sawl y disgwylir iddynt ddefnyddio allbynnau’r gwaith ymchwil a gwerthuso
Caiff rhai unigolion allweddol eu dewis o blith y sawl a fydd yn derbyn allbwn y gwaith ymchwil a gwerthuso, er mwyn cysylltu â nhw trwy ebost a gofyn iddynt gwblhau arolwg byr 7–10 munud o hyd wedi i’r allbwn gael ei ryddhau. Diben yr arolwg hwn wedi’i dargedu fyddai mapio llwybr effaith yr allbwn a sicrhau bod modd adolygu a monitro pob llwybr y mae’r allbwn yn ei gymryd, a gwneud gwaith pellach yn ei gylch.
3. Ar ôl y prosiect, cyfweliad strwythuredig â’r sawl sydd wedi gofyn am gael allbynnau’r gwaith ymchwil a gwerthuso
Bydd cyfres o gyfweliadau lled-strwythuredig â’r sawl sydd wedi gofyn am allbynnau’r gwaith ymchwil a gwerthuso yn cynnig adborth defnyddiol ynghylch pa mor ymarferol, eglur a defnyddiol yw’r allbwn ac ynghylch effaith arfaethedig a gwirioneddol y gwaith
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026