Neidio i'r cynnwys

Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 4 Ein Nod

Ein prif nod yw gwella, mewn modd mesuradwy, iechyd y boblogaeth yng Nghymru trwy arwain a chefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd ar lefel y boblogaeth.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn:

  1. Yn nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus er mwyn llunio’r agenda ymchwil, gweithio gyda phartneriaid i arwain portffolio gwerthfawr o waith ymchwil a gwerthuso, a chreu a defnyddio tystiolaeth i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghyfartalwch iechyd yng Nghymru.
  2. Yn helpu’r rhai sy’n gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu, sefydlu a chyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso sy’n drylwyr, sy’n ystyrlon ac sy’n canolbwyntio ar fylchau pwysig mewn gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus. Byddwn yn gwneud hyn trwy ddarparu model syml ac effeithiol i helpu i reoli a chefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso.
  3. Yn hybu arweinyddiaeth o ran ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus ledled Cymru a’r DU. Byddwn yn gweithio i ddylanwadu ar yr amgylchedd o ran cyllid ymchwil ac i feithrin diwylliant sy’n annog ymchwil ddylanwadol ac sy’n sicrhau bod gwaith gwerthuso’n mesur yr effaith ar ganlyniadau iechyd.

Er mwyn hybu twf ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn defnyddio ein cryfderau a’n hasedau i lywio ein gwaith.

Ein cryfderau

  • Gwybodaeth ac arbenigedd ein staff
  • Partneriaethau cydweithredol gyda’n hystod eang o bartneriaid, sy’n cynnwys academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Nodi blaenoriaethau, rhaglenni a pholisïau i’w gwerthuso yng nghyswllt ymchwil gymhwysol
  • Ein gallu i ddefnyddio gwybodaeth newydd i lywio penderfyniadau am bolisi ac ymarfer.

Ein hasedau

  • Gwasanaethau microbioleg a labordai cyfeirio arbenigol
  • Uned Genomeg Pathogenau (PenGU) a’r gallu i ddilyniannu
  • Data cadw gwyliadwriaeth ar iechyd a data ynghylch lefelau brechu
  • Rhaglenni cenedlaethol iechyd cyhoeddus a setiau data ar lefel poblogaeth
  • Rhaglenni sgrinio cenedlaethol sy’n seiliedig ar boblogaeth
  • Tîm gwerthuso pwrpaso

Y ffordd y byddwn yn gweithio

Byddwn yn cyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso hygyrch a thryloyw y mae modd ei atgynhyrchu, er mwyn hybu prosesau gwneud penderfyniadau, trwy fod: 

Yn agored yn naturiol

Bydd ein gwaith ymchwil a gwerthuso yn hygyrch ac yn dryloyw a bydd modd ei atgynhyrchu. Byddwn yn agored ynghylch ein blaenoriaethau, ac yn annog ac yn hwyluso mynediad i’n setiau data a defnydd ohonynt.

Bydd y setiau data hynny’n cael eu casglu fel mater o drefn i gynhyrchu tystiolaeth er mwyn gwella iechyd cyhoeddus.

Yn gynhwysol

Byddwn yn creu diwylliant o ymchwil a gwerthuso gyda seilwaith galluogi er mwyn hybu gweithredu llwyddiannus.

Byddwn yn cyflawni ein gwaith ymchwil a gwerthuso mewn modd cydweithredol gyda’r sawl y mae’r ymchwil yn debygol o effeithio arnynt, gan gynnwys y cyhoedd.

Yn amlddisgyblaethol

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod ymchwil a gwerthuso yn waith trawsbynciol

Byddwn yn gweithio fod yn dwyn ynghyd y sgiliau y mae arnom eu hangen a’r arbenigedd amrywiol ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn allanol

Byddwn yn  gan ganolbwyntio ar feysydd lle nodwyd bod yna fylchau o ran ymchwil a gwerthuso.

Yn gydgysylltiedig

Byddwn yn gweithio mewn modd cydweithredol i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso.

Byddwn yn meithrin cydweithrediad yn fewnol ac yn allanol ar draws ystod eang o sefydliadau, disgyblaethau a phartneriaethau, gan weithio gydag academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr. 

Yn ddylanwadol

Rydym yn arweinydd ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd cyhoeddus, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i bennu’r agenda.

Rydym am ddeall effaith a gwerth ein gwaith ymchwil a gwerthuso, gan ddylanwadu ar gamau gweithredu yn y dyfodol a chanolbwyntio ar “beth sy’n gweithio, i bwy, a pham”. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026