Neidio i'r cynnwys

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio plant, a gyflwynwyd yn 2025 a 2026.  

Rhaglen dal i fyny ddetholus ar gyfer brechu rhag farisela (brech yr ieir) yn rhedeg o fis Tachwedd 2026 i fis Mawrth 2028 

Mae rhaglen dal i fyny MMRV ar gael am gyfnod cyfyngedig i blant a aned rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Awst 2022. Cynigir dos sengl o’r brechlyn MMRV i’r plant hyn i’w hamddiffyn rhag brech yr ieir. Mae’r rhaglen dal i fyny yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. Dylid rhoi gwybod i rieni a gwarcheidwaid am eu cymhwysedd erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf. 

Cyflwynwyd y rhaglen hon i helpu i gyflymu’r broses o reoli brech yr ieir (farisela), lleihau lledaeniad yr haint, a helpu i amddiffyn plant a allai ddal brech yr ieir o hyd. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen dal i fyny ddetholus MMRV, ewch i gwybodaeth am y brechlyn MMR ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

Newidiadau o 1 Ionawr 2026 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio. Mae’r JCVI yn defnyddio tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg i lywio ei gyngor ar raglenni brechu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig).  

Ystyriodd y JCVI opsiynau ar gyfer cyflwyno newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant ac argymhellodd y dylid cyflwyno’r newidiadau canlynol o 1 Ionawr 2026: 

  • Cyflwyno dos ychwanegol (pedwerydd dos) o’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (chwefalent) mewn apwyntiad brechu rheolaidd newydd ar gyfer plant 18 mis oed. 
  • Yn yr apwyntiad 18 mis hwn, mae plant hefyd yn cael y brechlyn MMRV (y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela). 

Brechlyn y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (MMRV)  

Nod cyflwyno’r brechlyn MMRV i’r rhaglen i blant yw lleihau nifer yr achosion o heintiau’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela) a chymhlethdodau cysylltiedig. Nid yn unig i leihau nifer yr achosion o glefydau, ond i ddileu’r frech goch a rwbela, ac o bosibl brech yr ieir.  

Brechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR)  

  • Nid yw’r brechlyn MMR, sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, ar gael mwyach fel rhan o raglen reolaidd i blant y GIG o 1 Ionawr 2026. Mae ar gael i’w ddefnyddio y tu allan i’r rhaglen reolaidd i blant, er enghraifft ar gyfer unigolion hŷn nad ydynt wedi cael dau ddos ​​o MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael brechlyn farisela). 

Brechlyn amlfalent DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) sy’n cynnwys Hib  

  • Mae angen dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn yr apwyntiad 18 mis oed i gymryd lle’r brechlyn Hib, a roddwyd yn flaenorol gyda’r brechlyn Menitorix© (Hib/MenC) i fabanod 12 mis oed. Bydd hyn yn helpu i roi amddiffyniad tymor hwy yn erbyn haint Hib. 
  • Mae’r ymweliad brechu 6-mewn-1 ychwanegol ar gyfer babanod yn 18 mis oed yn effeithio ar y rhaglen HepB  ddetholus i fabanod newydd-anedig (gweler yr adran newidiadau o 1 Gorffennaf 2025 isod).  

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn 6-mewn-1 a Hepatitis B ar gael o: 

Newidiadau o 1 Gorffennaf 2025 

Argymhellodd y JCVI y dylid gweithredu’r newidiadau canlynol o 1 Gorffennaf 2025: 

  • Daeth y brechiad Hib/MenC (Menitorix®) rheolaidd a gynigiwyd i blant 12 mis oed i ben. 
  • Symudwyd yr ail ddos o’r brechlyn MenB (grŵp meningococol B) a roddwyd yn flaenorol yn yr apwyntiad 16 wythnos, i’r apwyntiad 12 wythnos. 
  • Symudwyd y dos cyntaf o PCV13 (brechlyn niwmococol cyfun i fabanod), a roddwyd yn flaenorol yn yr apwyntiad 12 wythnos, i’r apwyntiad 16 wythnos. 
  • Cafodd y dos unfalent o Hepatitis B (HepB) a gynigiwyd i fabanod blwydd oed fel rhan o’r rhaglen HepB ddetholus i fabanod newydd-anedig ei dynnu o’r amserlen. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn i’r amserlen HepB yn y rhaglen brechu HepB. 
Gwybodaeth:

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau am y newidiadau hyn i’r amserlen brechu plant ar gael trwy ddilyn y dolenni isod:

Mae’r pecyn cymorth hwn yn crynhoi’r adnoddau a’r offer i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant.  

  • Adnodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Set sleidiau wedi’i chreu i dynnu sylw at gyhoeddiadau allweddol sy’n trafod y newidiadau a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2026. 

Brechlyn MMRV 

Cwestiynau cyffredin am y newidiadau 

Adnoddau hyfforddiant a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy’r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.   

Mae’r sleidiau a’r recordiadau sy’n rhoi briffiau manwl i gefnogi Byrddau Iechyd gyda hyfforddiant lleol i’w gweld ar Hyfforddiant (sharepoint.com) (mynediad i staff gofal iechyd y GIG).   

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Mae gan y Llyfr Gwyrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am frechlynnau a gweithdrefnau brechu (safle allanol, Saesneg yn unig), ar gyfer clefydau heintus y gellir eu hatal drwy frechu yn y DU.  

Mae poster canllaw gweledol UKHSA i frechlynnau (safle allanol, Saesneg yn unig) yn cynnwys pecynnu a chyflwyniad cynnyrch y brechlynnau a ddefnyddir yn y rhaglenni brechu rheolaidd. 

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau 

Gellir dod o hyd i dempledi Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer brechlynnau ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru. 

Data a gwyliadwriaeth 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Hydref 2026