Neidio i'r cynnwys

Brechlyn COVID-19 - Adnoddau brechlyn COVID-19 i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Nod y dudalen hon yw cyfeirio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol at adnoddau i gefnogi cyflwyniad y rhaglen frechu COVID-19.

Taflenni

Posteri 

Mae adnoddau, gan gynnwys taflenni a phosteri i gefnogi’r rhaglen frechu COVID-19, ar gael i’w lawrlwytho ac i’w harchebu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.

Adnoddau templed COVID-19

Adnoddau hyfforddi COVID-19   

Mae rhaglen e-ddysgu brechu COVID-19 wedi’i hysgrifennu gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) a’i datblygu gan e-ddysgu ar gyfer Gofal Iechyd Addysg Iechyd Lloegr ac yn cael ei hadolygu a’i diweddaru gan UKHSA fel y bo angen. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiwn Wybodaeth Graidd gydag asesiad, a sesiynau ar frechlynnau penodol gydag asesiadau cysylltiedig ar gyfer pob brechlyn COVID-19 sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. 

Os nad yw unigolyn wedi cael unrhyw hyfforddiant diweddaru ar frechlynnau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, argymhellir ei fod hefyd yn ymgymryd â sesiynau e-ddysgu ar weinyddu, storio ac agweddau cyfreithiol. Mae’r sesiynau hyn ar gael o cwrs e-ddysgu’r rhaglen imiwneiddio.

I rai sy’n newydd i imiwneiddio, mae’r safonau gofynnol cenedlaethol a’r cwricwlwm craidd ar gyfer hyfforddiant imiwneiddio ar gyfer Ymarferwyr Gofal Iechyd cofrestredig (safle allanol, Saesneg yn unig) yn berthnasol o hyd. Dylai hyfforddwyr addasu’r cwricwlwm (y pynciau a gwmpesir, a lefel y manylder sy’n ofynnol) i anghenion penodol y gweithlu yn dibynnu ar natur eu rôl o ran darparu rhaglen frechu COVID-19.  

Gwybodaeth:

Mae’n bwysig bod yr holl frechwyr COVID-19 a / neu’r rhai sy’n darparu cyngor ar imiwneiddio COVID-19 yn ymgyfarwyddo â’r dystiolaeth a’r canllawiau clinigol mwyaf diweddar, mae hyn i’w weld yn y dogfennau allweddol canlynol:

Setiau sleidiau hyfforddiant COVID-19

Adnoddau eraill

Mae’r adnodd UKHSA – Pa frechlyn COVID-19? (safle allanol, Saesneg yn unig) hwn gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth, dosau a storio brechlynnau COVID-19.  Nodwch y dylid defnyddio pob brechlyn yn unol â’r Llyfr Gwyrdd a chanllawiau gweithredol GIG Cymru. 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC) 

Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).   

Mae gan feddyginiaethau a brechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol symbol triongl du â’i ben i lawr (▼) ar y daflen yn y pecyn a’u Crynodeb o Nodweddion y cynnyrch (SmPC), ynghyd â brawddeg fer yn esbonio ystyr y triongl. Dylech roi gwybod am bob adwaith niweidiol a amheuir wrth ddefnyddio’r cynhyrchion hyn.

Mae’r canllawiau ar yr amserlen yn Llyfr Gwyrdd COVID-19 pennod (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli’r SmPC.  

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Medi 2026