Brechlyn COVID-19 - Ynglŷn â’r brechlyn COVID-19
Am y brechiad
Mae brechu’n achub bywydau. Mae’n helpu i’ch amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn.
Mae brechlynnau COVID-19 yn eich helpu i’ch amddiffyn rhag y mathau o feirysau COVID-19 sy’n lledaenu nawr. Fel y ffliw, gall y feirws COVID-19 newid, a gall amddiffyniad y brechlyn leihau dros amser. Cael brechlyn COVID-19 yw’r ffordd orau o aros yn ddiogel a lleihau eich risg o fynd yn sâl iawn.
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn sydd orau i chi. Gall hyn fod yr un fath â’r brechlynnau rydych chi wedi’u cael o’r blaen, neu’n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gweld y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer brechlynnau COVID-19 cyfredol (safle allanol, Saesneg yn unig). Rhowch ‘COVID-19‘ yn y blwch chwilio.
Rhaid i bob meddyginiaeth a brechlyn a ddefnyddir yn y DU fodloni safonau diogelwch llym. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu gwirio’n ofalus a’u bod yn ddiogel iawn i’w defnyddio.
Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yw’r sefydliad sy’n cymeradwyo meddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau. Dim ond os dangosir eu bod yn ddiogel ac yn gweithio’n dda y maent yn eu cymeradwyo.
Mae’r MHRA wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau COVID-19 i’w defnyddio yn y DU. Mae’r brechlynnau hyn wedi profi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau weithiau. Caiff unrhyw adroddiadau am sgil-effeithiau eu monitro a’u hadolygu’n agos. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod brechlynnau’n parhau i fod yn ddiogel.
Ni all y brechlyn COVID-19 achosi COVID-19 na’i ledaenu.
Y brechiad COVID-19 a phobl â system imiwnedd wan iawn
Os ydych chi’n chwe mis oed neu’n hŷn ac mae gennych chi system imiwnedd wan iawn, efallai na fyddwch chi’n cael yr un lefel o amddiffyniad o’r brechlyn COVID-19 â phobl eraill. Fodd bynnag, dylai helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol.
Gallai hyn fod oherwydd cyflwr iechyd, neu driniaeth sy’n effeithio ar eich system imiwnedd (er enghraifft, rhai triniaethau canser neu feddyginiaethau sy’n lleihau imiwnedd).
Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y cynigir brechlynnau COVID-19 ychwanegol i chi. Gall hyn helpu i wella eich amddiffyniad. Bydd eich meddyg teulu neu nyrs yn eich cynghori.
Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi:
- y tu allan i’r rhaglen dymhorol arferol, a
- chyn yr ymgyrch frechu gynlluniedig nesaf
Mae’n fwy diogel i’ch system imiwnedd ddysgu sut mae amddiffyn ei hun drwy frechlyn yn hytrach na thrwy ddal afiechyd.
Os oes gennych gwestiynau, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu’ch plentyn.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am y brechlyn COVID-19 isod. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
Pam y dylech chi gael y brechlyn
Cymhwystra ar gyfer y brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Cael y brechlyn
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Awst 2026