Am CARIS - Sgrinio Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru
Sefydlwyd y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru (CARIS) ym 1998 o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bwriad y Gofrestr yw casglu data ar anomaleddau cynhenid ym mhob genedigaeth yng Nghymru. Diffinnir anomaledd cynhenid fel unrhyw anomaledd strwythurol neu swyddogaethol sydd wedi datblygu y tu mewn i’r groth. Gall diagnosis fod yn ystod y cyfnod cyn geni, ar enedigaeth, babandod, neu blentyndod.
Yng Nghymru, mae rhaglen sgrinio cyn geni ac ôl-enedigol safonol ar waith ar gyfer canfod problemau cromosomaidd a chynhenid yn ystod beichiogrwydd. Cynigir gofal arbenigol ar gyfer y cadarnhad a’r diagnosis trwy unedau meddygaeth y ffetws.
- Bydd bydwragedd cymunedol yn trefnu bod pob menyw cyn geni sydd yn y cyfnod o tua 9-10 wythnos o feichiogrwydd, yn unol â dyddiad y mislif diwethaf yn cael apwyntiad.
- Cynigir apwyntiad gwaed fel arfer gan gynnwys cyfrif gwaed llawn, sgrinio heintiau feirysol mewn mamau risg uchel â haemoglobinopathi (clefydau gwaed) a chlefyd celloedd crymanog yn 11 wythnos o’r beichiogrwydd. Mewn achosion lle mae menywod yn gludwyr haemoglobinopathi neu glefyd celloedd crymanog a gadarnhawyd, cynigir profion pellach gyda’u partneriaid.
- Pan fydd mamau yn y cyfnod o 11-14 neu fwy o wythnosau o feichiogrwydd, gall claf gael prawf sgrinio cyfun a mesur tryleuder y gwegil (NT).
- Os bydd y claf yn gweld bydwraig yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd (14 i 18 wythnos o feichiogrwydd) bydd yn cael cynnig prawf sgrinio tryleuder y gwegil yn rhan o’r prawf pedwarplyg.
- Mae Profi Cynenedigol Heb Lawdriniaeth (NIPT) yn cael ei gynnig i famau risg uchel sydd wedi cael eu hadnabod trwy brawf sgrinio tryleuder y gwegil a phrawf sgrinio cyfun, neu drwy ganlyniadau eu prawf sgrinio pedwarplyg.
- Cynigir prawf gwaed “DNA di-gell y ffetws (cffDNA) i famau rhesws negatif sydd yn y cyfnod o tua 16 wythnos o feichiogrwydd i ddarganfod a yw grŵp gwaed y baban yn negatif neu’n bositif.
- Bydd sgan anomaledd manwl yn cael ei wneud yn wythnosau 18-20 o’r beichiogrwydd
- Darperir profion goddefiad i glwcos (GTT) ar gyfer mamau sydd wedi dioddef o GDM (Diabetes Mellitus yn ystod beichiogrwydd) yn flaenorol pan fyddant yn 16 wythnos o’r beichiogrwydd ac ar gyfer mamau risg uchel yn wythnos 28 o’r beichiogrwydd.
- Cynhelir sganiau twf ar gyfer beichiogrwydd risg uchel bob 3 wythnos o ganfod problem neu o 28 wythnos ymlaen.
Darganfod anomaleddau’n gynenedigol
Rhoddir gwybodaeth am anomaleddau cynhenid a ganfyddir yn ystod y cyfnod cyn-enedigol yn y dogfennau y mae dolenni cyswllt iddynt uchod.
Cynigir i bob menyw feichiog yng Nghymru yr un rhaglen sgrinio gyn-enedigol sy’n cynnwys saith prawf gwaed a dau sganiad uwchsain. Y ddau sganiad uwchsain a gynigir trwy raglen Sganio Cyn-enedigol Cymru yw’r ‘sganiad uwchsain mewn beichiogrwydd cynnar’ a’r ‘sganiad ar gyfer anomaleddau ffetysol’. Mae’r sganiadau hyn yn brofiad pleserus i fenywod yn aml gan eu bod yn cynnig cyfle iddynt weld eu baban yn symud ac yn datblygu. Ond o bryd i’w gilydd fe fydd y sganiadau hyn yn dod o hyd i broblem sydd gan y fam neu’r baban.
Cynigir y sganiad uwchsain mewn beichiogrwydd cynnar i gadarnhau hyfywedd y ffetws a’i oedran, ac i ganfod a oes beichiogrwydd lluosog. Mae’n bosibl y canfyddir rhai anomaleddau ffetysol, ond nid dyna brif nod y sganiad hwn. Nod y sganiad ar gyfer anomaleddau ffetysol yw canfod unrhyw anomaleddau ffetysol arwyddocaol sy’n debygol o amharu ar iechyd y fam neu’r baban, ac y mae ymyriad effeithlon a chyfiawnadwy ar gael ar eu cyfer. Gellir canfod anomaleddau hefyd ar sganiadau a gynhelir yn nes ymlaen yn ystod y beichiogrwydd. Mae data CARIS ar ganfod anomaleddau trwy sganiad uwchsain yn cynnwys achosion a ganfyddir ar unrhyw un o’r sganiadau a gynhelir yn ystod y beichiogrwydd.
Mae triniaeth ataliol ar gael at rai anhwylderau yn ystod y cyfnod cyn-enedigol neu ar ôl yr esgoriad i wella iechyd y baban. Yn achos anhwylderau eraill, er ei bod hi’n bosibl adnabod yr anhwylder trwy sganiad uwchsain, nid oes triniaeth ataliol ar gael. Mewn achosion o’r fath, gall menywod benderfynu wedyn ar sail gwybodaeth a ydynt am ganlyn arni â’r beichiogrwydd.
Bydd yr uwchseingraffydd yn hysbysu CARIS am anomaledd cyn-enedigol ar yr adeg pan fydd yn ei ganfod. Mae hyn wedi galluogi CARIS i amcangyfrif y gyfradd ganfod ar gyfer anhwylderau penodol. Mae newidiadau ym modwl adrodd y System Hysbysu Radiolegol (RadIS) a ddefnyddir gan uwchseingraffyddion wedi gwneud y broses adrodd yn haws ac yn gyflymach. Mae’r system RadIS II ddiweddaredig wedi cael ei rhoi ar waith bellach ym mhob ysbyty yng Nghymru heblaw am un.
Mae CARIS yn cydweithio’n glòs â’r staff mewn byrddau iechyd i’w gwneud hi’n bosibl i ddeilliannau sganiadau uwchsain cyn-enedigol gael eu harchwilio ac i’r achosion hynny na chawsant eu canfod yn gyn-enedigol gael eu harolygu gan adrannau radioleg. Mae CARIS yn cydweithio’n glòs hefyd â Sganio Cyn-enedigol Cymru i fonitro cyfraddau canfod. Mae data CARIS yn dangos bod gwelliant cyson wedi digwydd mewn llawer o anhwylderau dros yr 17 blynedd ddiwethaf yn y broses o ganfod anomaleddau. Yn achos yr anomaleddau hynny sy’n haws i’w canfod, megis anenseffaledd neu spina bifida, mae cyfraddau canfod wedi aros ar lefelau uchel trwy gydol y cyfnod.
Mae hanes canfod anomaleddau cardiaidd yn y cyfnod cyn-enedigol wedi gwella’n aruthrol gan ddechrau ar lefel isel iawn, ac o ganlyniad mae gan Gymru’r cyfraddau gorau yng ngwledydd Prydain o ran canfod anomaleddau cardiaidd. Mae hyn yn golygu bod rhyw bedwar neu bump o fabanod yn cael eu hachub bob blwyddyn bellach a fuasai wedi marw o’r blaen cyn iddi fod yn bosibl rhoi triniaeth iddynt.
Canfod Ôl-enedigol
Mae’r gwiriadau ôl-enedigol ar y baban ar ôl genedigaeth yn cynnwys:
NIPE (Archwiliadau Corfforol ar Fabanod a Babanod Newydd-anedig yng Nghymru). Caiff yr archwiliadau yma eu cynnal o fewn 72 awr i’r enedigaeth ac mae’n rhan o’r gwiriadau systemig ehangach. Nod y profion hyn yw nodi anomaleddau yn y galon, y llygaid, y clustiau, y daflod, y cluniau a’r organau cenhedlu.
Fel arfer dilynir hyn gan archwiliad arall, 6 i 8 wythnos ar ôl genedigaeth yn y practis meddyg teulu lleol.
Sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig
Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn canfod afiechydon prin ond difrifol, sy’n ymateb yn dda i driniaethau pan gânt eu canfod yn gynnar gan arwain at ansawdd bywyd gwell.
Cynhelir y prawf sgrinio pan fydd y babi rhwng pump ac wyth diwrnod oed. Mae’n rhan o ofal ôl-enedigol arferol. Mae’r prawf yn nodi rhai afiechydon sy’n cael eu cofnodi gan dîm CARIS, fel Ffenylcetonwria, Homosystinwria neu Ffeibrosis Systig. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru.
Sgrinio Clyw Babanod
Mae un neu ddau o fabanod o bob 1,000 yn cael eu geni â cholled clyw a allai effeithio ar ddatblygiad eu lleferydd a’u hiaith. Cyflwynwyd sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru ym mis Mawrth 2003. Fe’i cynhelir fel arfer yn ystod wythnos gyntaf bywyd baban. Mae CARIS yn cofnodi digwyddedd babanod sy’n cael eu geni â cholled clyw cynhenid. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Sgrinio Clyw Babanod Cymru.
Data CARIS
Mae CARIS yn gweithio’n agos gyda Sgrinio Cyn Geni Cymru, yr adran sytogenetig, unedau meddygaeth ffetws, radiograffwyr newyddenedigol, ystafelloedd geni, unedau newyddenedigol a phediatrig er mwyn casglu data. Mae system gadarn ar waith ar gyfer adrodd ar achosion gan gynnwys nodiadau electronig a phapur. Pan fydd yr achos yn cael ei adrodd i CARIS, caiff ei ddilysu ymhellach drwy borth clinigol Cymru a thrwy gysylltu â chlinigwyr os oes unrhyw amheuaeth am yr wybodaeth gywir.
Defnyddir y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD) fersiwn 10 ar gyfer dosbarthu’r anomaleddau cynhenid. Mae’r codio hwn yn gydnaws â chofrestrau anomaleddau cynhenid rhyngwladol eraill fel EUROCAT ac ICSBDR (Ty Clirio Rhyngwladol ar gyfer Gwyliadwriaeth ac Ymchwil i Namau Geni). Mae CARIS yn cyfnewid data ag EUROCAT ac ICSBDR i gynorthwyo cymariaethau rhyngwladol a gwyliadwriaeth
Mae gan CARIS ddata o 1998 ymlaen. Mae set ddata mor helaeth yn ei gwneud hi’n bosibl edrych ar dueddiadau hirdymor ac yn galluogi clinigwyr i gael gwell gwybodaeth am boblogaeth Cymru ar gyfer achosion prin, a all helpu rhieni a chlinigwyr fel ei gilydd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Awst 2026