Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Roedd y gweminar hwn yn gyfle i fynychwyr edrych ar sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf. Cafwyd diweddariad ar ddatblygiadau diweddaraf y Rheoliadau HIA gan gynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, ceir golwg gyntaf ar ddogfen astudiaethau achos HIA ar gyfer cyrff cyhoeddus gyda dwy enghraifft fyw, yn ogystal â thrafodaeth banel yn edrych ar ble y gallai HIA fod mewn 20 mlynedd arall. Roedd cyfle hefyd i fynychwyr ofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â HIA i’r panel o arbenigwyr.
Canlyniadau Dysgu:
- Dysgu sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf a sut mae wedi cyfrannu at ddatblygiad ymarfer HIA, gyda’r bwriad o weld sut y bydd y Rheoliadau HIA yn cael effaith wrth symud ymlaen.
- Rhoi syniad i’r rhai sy’n bresennol o sut mae HIA yn cael ei gynnal yn ymarferol. Bydd dwy astudiaeth achos yn cael eu cyflwyno, a rhoddir cyflwyniad i’n dogfen astudiaethau achos a fydd yn cael ei chyhoeddi ar y diwrnod.
- Dechrau meddwl am sut y bydd HIA yn datblygu dros yr 20 mlynedd nesaf trwy drafodaeth banel gydag arbenigwyr ym maes HIA.
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais.
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd
, 2MB
Llawrlwytho - Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd (2 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad