Sut gall busnesau lleol ein helpu i gael adferiad ar ôl Covid yn ogystal â mynd i’r afael â newid hinsawdd?
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
howYn y weminar hon, clywsom gan Glenn Bowen sydd yn Gyfarwyddwr Rhaglen Fentrau Canolfan Gydweithredol Cymru.
Mae Canolfan Gydweithredol Cymru yn gydweithfa annibynnol sydd yn gweithio gyda phobl, cymunedau a mentrau i wella eu bywydau a’u bywoliaeth. Maent yn helpu i gryfhau a grymuso cymunedau Cymru trwy gefnogi twf cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol, a thrwy gyflwyno prosiectau yn gydweithredol sydd yn darparu sgiliau ac yn mynd i’r afael ag allgáu.
Rhoddodd Glenn drosolwg o fentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a busnesau y mae cyflogeion yn berchen arnynt a’r cyfleoedd ar gyfer cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol mewn iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector ynni adnewyddadwy.