Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Pontio’r Bwlch rhwng Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd: Cryfhau Partneriaethau ar gyfer Gwaith Ataliol

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Pontio’r Bwlch rhwng Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd: Cryfhau Partneriaethau ar gyfer Gwaith Ataliol

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae gan iechyd y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd bwrpas ar y cyd, sef diogelu a gwella iechyd a llesiant poblogaethau trwy waith ataliol, ymyrraeth gynnar a gweithredu ar benderfynyddion ehangach iechyd. Er gwaethaf yr uchelgais gyffredin hon, mae’r ddau broffesiwn yn aml yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd, yn hytrach nag fel partneriaid integredig.

Mae’r weminar hon yn archwilio sut y gall cydweithio cryfach rhwng iechyd y cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd wella canlyniadau iechyd i’r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio’r cryfderau unigryw y mae pob disgyblaeth yn eu cynnig, yn nodi meysydd lle mae cyfrifoldeb yn gorgyffwrdd, ac yn ystyried sut y gall dulliau sy’n seiliedig ar leoedd gefnogi gweithredu cydgysylltiedig ar faterion fel tai, ansawdd aer, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a llesiant cymunedol.