Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Beth rydym yn ei wybod a beth rydym yn ei wneud amdano
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau pellgyrhaeddol a thymor hir ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru, a bydd hynny’n parhau, ond mae’n cael effeithiau penodol ar blant. Mae’r effeithiau hyn yn achosi pryder arbennig o ystyried sut mae profiadau o dlodi mewn plentyndod yn cael effeithiau negyddol hirhoedlog ar eu datblygiad a’u hiechyd a’u ffyniant yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd dyfodol gwell a mwy cydnerth i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Roedd y gweminar hwn yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.
Siaradwyr
- Manon Roberts, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Karen Hughes a Rebecca Hill, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Catherine Pape, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Amy McNaughton, Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Sally Hunt a Dr Sam Clutton, Tîm Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Plant a'r argyfwng costau byw yng Nghymru
, 8MB
Llawrlwytho - Plant a'r argyfwng costau byw yng Nghymru (8 MB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad