Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Newid Hinsawdd, Safbwynt Cymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Newid Hinsawdd, Safbwynt Cymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Newid hinsawdd yw’r bygythiad byd-eang mwyaf i iechyd y mae’r byd yn ei wynebu yn yr 21ain ganrif ac mae’n effeithio ar lawer o benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd – aer glân, dŵr yfed diogel, bwyd digonol a lloches diogel.

Cynhaliwyd y weminar hon ar ddydd Iau 11 Tachwedd am 14:00 oedd yn cyd-fynd â 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) oedd yn cael ei chynnal yn Glasgow ar 31 Hydref – 12 Tachwedd 2021.

Yn y weminar hon, clywsom gan Jonathan Tench o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a roddodd drosolwg o’r hyn y mae Cymru’n ei wneud ar lefel Genedlaethol yn amlygu rhai o’r gweithredoedd cadarnhaol yng Nghymru ac yn dangos sut mae prosiectau lleol yn chwarae eu rhan yn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rhoddodd Nerys Edmonds o Iechyd Cyhoeddus Cymru drosolwg byr o’r Asesiad o Effaith Newid Hinsawdd ar Iechyd oedd i gael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.  Esboniodd Nerys rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru ac archwiliodd yr effeithiau ar iechyd a lles y mae angen mynd i’r afael â nhw wrth gynllunio ar gyfer ac ymateb i newid hinsawdd.

Fideo digwyddiad

Gwerthuso digwyddiad