Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Daeth y digwyddiad i ben
- Dyddiad
- Amser
- -
- Lleoliad
- Ar-lein
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, sy’n lansio llwyfan arloesol newydd ar y we – Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru. Lluniwyd y llwyfan i fod yn adnodd i ddarganfod data a datrysiadau’n gysylltiedig â thegwch iechyd. Mae’n cynnwys dangosfwrdd data rhyngweithiol, fframweithiau tegwch iechyd a pholisi, ac astudiaethau achos rhyngwladol.
Bydd y llwyfan yn cefnogi ac yn cyflymu bywyd llewyrchus, iach, i bawb yng Nghymru ac yn cyfrannu at Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Ewropeaidd. Rhoddodd y gweminar drosolwg o weithgareddau arfaethedig ar gyfer y dyfodol a rhoddodd gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu datrysiadau, datblygu astudiaethau achos a chyfrannu at ddysgu am weithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.
Deilliannau Dysgu:
- Dealltwriaeth o Lwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru a gwaith ehangach menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru
- Dealltwriaeth o’r ffordd y gallwch ddefnyddio’r llwyfan i lywio gweithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.
- Ymwybyddiaeth o waith y rhaglen yn y dyfodol a sut y gallwch gyfrannu
Cadeirydd:
- Yr Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Siaradwyr:
- Sumina Azam, Cyfarwyddwr, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Christine Brown, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad, Fenis, yr Eidal
- Nicola Evans, Pennaeth Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach, Llywodraeth Cymru
- Mariana Dyakova – Ymgynghorydd yn Iechyd y Cyhoedd, Dirprwy Gyfarwyddwr ac Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Dr Rebecca Hill – Cyfarwyddwr Rhaglen (Polisi Iechyd Cyhoeddus), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fideo digwyddiad
Cyflwyniad digwyddiad
Nicola Evans - Llywodraeth Cymru
PDF, 922KB
Llawrlwytho PDF - Nicola Evans - Llywodraeth Cymru (922 KB)
LlawrlwythoLlwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru
PDF, 933KB
Llawrlwytho PDF - Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (933 KB)
LlawrlwythoGwerthuso digwyddiad