Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Ydych chi wedi meddwl tybed beth yw ymagwedd system gyfan? A sut mae’r ymagwedd hon yn cael ei defnyddio yng Nghymru? Ymunwch â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a roddodd drosolwg o’r hyn a olygir gan y term Ymagwedd System Gyfan a sut mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi pwysau iach yng Nghymru. Disgrifiodd y gweminar y dystiolaeth, y cyd-destun strategol a’r dull naw cam ar gyfer ymagweddau system gyfan yng Nghymru. Trafododd y gweminar pam fod gweithio fel hyn yn wahanol i waith partneriaeth mwy traddodiadol.

Canlyniadau dysgu:

  • Dealltwriaeth well o Ymagweddau System Gyfan a’r derminoleg gysylltiedig
  • Gwybodaeth am gyd-destun strategol yr Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru
  • Dealltwriaeth o’r dull 9 cam sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru
  • Clywed sut mae’r ymagwedd yn cael ei datblygu yng Nghymru gydag enghreifftiau ymarferol
  • Gwybod sut i gael at ragor o wybodaeth.

Siaradwyr:

  • Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Sophia Bird, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus Atal Gordewdra a Maeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Mynd i wraidd y broblem - Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru

PDF, 4MB

Llawrlwytho PDF - Mynd i wraidd y broblem - Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru (4 MB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad