Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Llesiant Ariannol yng Nghymru – Ysgogwr ar gyfer Iechyd Gwell

Gwybodaeth am y digwyddiad

Daeth y digwyddiad i ben

Dyddiad
Amser
-
Lleoliad
Ar-lein
Llesiant Ariannol yng Nghymru – Ysgogwr ar gyfer Iechyd Gwell

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae llesiant ariannol yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio iechyd a llesiant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi Llesiant Ariannol fel un o’i bum blaenoriaeth polisi allweddol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Daeth y weminar hon ag arbenigedd cenedlaethol ynghyd i archwilio’r cysylltiadau rhwng amgylchiadau ariannol a chanlyniadau iechyd yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio mewn cydweithrediad ag aelodau o Grŵp Llywio Cynllun Cyflawni Llesiant Ariannol Cymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Llywodraeth Cymru, i amlinellu’r cysylltiadau rhwng amgylchiadau ariannol a chanlyniadau iechyd yng Nghymru. Rhannodd Lee Phillips o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn rhannu mewnwelediadau o’r sesiwn friffio, ‘Llesiant ariannol fel bloc adeiladu ar gyfer iechyd‘, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cynrychiolwyr ar y gwaith parhaus i gysylltu llesiant ariannol yn well â gwella iechyd yng Nghymru.  Tynnodd y sesiwn sylw at ba grwpiau poblogaeth sy’n cael eu heffeithio fwyaf a sut y gall mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â llesiant ariannol arwain at ganlyniadau iechyd ac ariannol gwell yn y tymor hir.

Roedd y weminar hefyd yn cynnwys canfyddiadau o’r cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal, a werthuswyd gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE).  Cyflwynodd Dr Vibhor Mathur o CASCADE ganfyddiadau allweddol y gwerthusiad hyd yma, gan rannu’r hyn y mae pobl ifanc wedi’i ddweud wrthym am sut mae’r incwm sylfaenol wedi effeithio ar eu bywydau, eu lles a’u prosesau gwneud penderfyniadau ariannol.

Fideo digwyddiad

Cyflwyniad digwyddiad

Lee Phillips

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Lee Phillips (3 MB)

Llawrlwytho

Dr Vibhor Mathur

PDF, 451KB

Llawrlwytho PDF - Dr Vibhor Mathur (451 KB)

Llawrlwytho

Gwerthuso digwyddiad